P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lydia Jackson, ar ôl casglu cyfanswm o 125 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Cynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

 

Fel y nodir gan Lywodraeth Cymru: "Gwaith Trafnidiaeth Cymru yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel y mae pobl Cymru’n ymfalchïo ynddo."

 

Credwn y byddai gwahardd gwerthu plastig untro, sy’n niweidio ein hamgylchedd naturiol, yn gam sylweddol o ran cyflawni’r nod hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol tecach a diogelach i ddinasyddion Cymru.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/09/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Yn sgil y camau a ddisgrifiwyd gan Trafnidiaeth Cymru a'u bwriad i ddileu'r defnydd o blastigau un defnydd yn llwyr ar ei wasanaethau, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/05/2019.

 

 

Assembly Constituency and Region

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/04/2019