NDM7021 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Plant Sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol

NDM7021 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Plant Sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol

NDM7021 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;

b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac

c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref. 

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021

Angen Penderfyniad: 3 Ebr 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd