Gwaith dilynol ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Gwaith dilynol ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig

 

Ym mis Awst 2017, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad, Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion ynghylch yr angen i gynyddu adnoddau ar gyfer rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig; sefydlu partneriaeth gwyddoniaeth morol; cynyddu ymwybyddiaeth o rôl Ardaloedd Morol Gwarchodedig; a chreu strategaeth gorfodi yn seiliedig ar risg.

 

Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru 2018-2023 a Chynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru 2018-2019.

 

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn ein hadroddiad, ac wrth gyflwyno Cynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig 2018-19.

 

Casglu tystiolaeth

 

Gwnaeth y Pwyllgor ymgynghori ar y pwnc hwn ac mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei waith ar 22 Mai 2019 a 6 Mehefin 2019.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd (PDF 1523KB) y Pwyllgor ei adroddiad ar Gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar 14 Tachwedd 2019.  Ymatebodd (581 KB) Llywodraeth Cymru ar 8 Ionawr 2020.

 

Ymgynghoriad

 

Gwaith dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)

 

 

 

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/03/2019

Dogfennau