Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Inquiry5

Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru waith craffu ôl-ddeddfwriaethol byr a phenodol ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Bwriad Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 oedd:

(a)  “sicrhau trefn reoleiddio gadarn a chymesur ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau Llywodraeth Cymru; 

(b)  diogelu'r cyfraniad a wneir at les y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ​​ariannol Llywodraeth Cymru tuag at addysg uwch;

(c)  canolbwyntio'n gryf ar sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb yn ddiwahân; a

(d)  chadw a diogelu annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd prifysgolion.”

Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol bod y gwaith ar ddiwygiadau arfaethedig Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) Llywodraeth Cymru wedi datblygu'n dda.

Roedd yn awyddus felly i ddeall pa mor dda roedd Deddf 2015 yn gweithio, a pha wersi y gellid eu dysgu yn sgîl y Ddeddf, cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd

I wneud hyn, ystyriodd y Pwyllgor:

  • a yw'r Ddeddf yn cyflawni ei nodau, ac os na, pam;
  • a gyflawnwyd y costau, ac os na, pam;
  • a yw'r Ddeddf wedi cyflawni gwerth cyffredinol am arian;
  • pa mor dda y gweithredwyd y Ddeddf a pha mor dda y mae'n gweithio'n ymarferol, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol;
  • y canlyniadau o adolygiadau ffurfiol Llywodraeth Cymru o'r Ddeddf; ac
  • unrhyw arfer da a gwersi a ddysgwyd o'r Ddeddf a'r gwaith paratoi (h.y. y broses o lunio'r Ddeddf, ei drafftio, ymgynghori arni ac ati).

Noder, nid nod yr ymchwiliad hwn oedd  ailagor y dadleuon polisi a gododd yn ystod y cyfnod y pasiwyd y Bil. Yn hytrach, y nod eang oedd deall a oedd y Ddeddf a'i gweithrediad wedi cyflawni'r amcanion, y costau a'r effaith a fwriadwyd, a hynny mewn modd effeithiol ac effeithlon.

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.    Estyn a Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

David Blaney, Prif Weithredwr - CCAUC

Bethan Owen, Dirprwy Brif Weithredwr - CCAUC

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM – Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn

 

18 Gorffennaf

2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2.    Prifysgolion Cymru

Yr Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru

Yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Gadeirydd-Prifysgolion Cymru

Ben Arnold, Cynghorydd Polisi, Prifysgolion Cymru

18 Gorffennaf

2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3.    ColegauCymru

Maggie Griffiths, Pennaeth Cynorthwyol - Grŵp Llandrillo Menai (trwy Gynhadledd Fideo)

Emil Evans, Dirprwy Bennaeth - Coleg Caerdydd a'r Fro

Mike Williams, Pennaeth Cynorthwyol - Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion

18 Gorffennaf

2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4.    Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) ac Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)

Margaret Phelan, Swyddog UCU Cymru

Dr Bethan Winter, Swyddog Polisi a Chyfathrebu - UCU

Rob Simkins, Llywydd - UCM Cymru

Joni Alexander, Cyfarwyddwr Dros Dro - UCM Cymru

18 Gorffennaf

2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

5.    Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Huw Morris, Huw Morris, Cyfarwyddwr y Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

 

26 Medi

2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

Adroddiad

Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (PDF 2MB) – 4 Rhagfyr 2019

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 197KB) – 16 Ionawr 2020

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau