Papur Gwyn: Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus

Papur Gwyn: Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus'.

Crynodeb

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn gwneud darn o waith i ymchwilio i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar sut y caiff gwasanaethau bysiau lleol eu cynllunio a'u darparu ac ar ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar elfennau yn y Papur Gwyn yn ymwneud â bysiau, tocynnau teithio rhatach, tacsis a cherbydau hurio preifat.

Mae'r cylch gorchwyl fel a ganlyn:

  • Ystyried y cyfleoedd a'r risgiau sy'n codi o ddatganoli pwerau trafnidiaeth newydd;
  • Casglu opsiynau gan y sectorau perthnasol ar gyfer diwygiadau deddfwriaethol posibl.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi ei ddileu