NDM6966 Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Carchardai a Charcharorion

NDM6966 Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Carchardai a Charcharorion

NDM6966 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.

2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.

2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.

Yn nodi bod y Pwyllgor Cydraddoldeb,  Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 2, dileu 'na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru' a rhoi yn ei le 'na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn i etholiadau Cymru yn y dyfodol'.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021

Angen Penderfyniad: 13 Chwe 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Gareth Bennett AS