P-05-863 Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

P-05-863 Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

P-05-863 Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Malpas Women's Institute, ar ôl casglu 141 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

 

​​Mae Sefydliad y Merched (WI) Malpas yn galw am ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.  Sefydlwyd Sefydliad y Merched ym 1915, ac mae’n ymgyrchu dros faterion sy’n bwysig i fenywod a’u cymunedau. Ein nod yw grymuso ac ysbrydoli menywod o bob oed. Credwn na ddylid gorfodi neb i fynd heb gynhyrchion hylendid oherwydd cost y nwyddau hyn. Gyda rhagor o fenywod o hyd yn gorfod defnyddio banciau bwyd i gadw eu hunain yn fyw, daeth yn amlwg bod cynhyrchion hylendid yn foethustra na all menywod ar incwm isel eu fforddio.

Ar draws y DU mae genethod sy’n rhy dlawd i brynu nwyddau hylendid. Maent yn gorfod colli ysgol. Tanseilir eu hurddas. Mae anghenion menywod wedi cael eu hesgeuluso am amser rhy faith. Yn wahanol i drafodion eiddo, mae cynhyrchion hylendid yn dal heb eu heithrio rhag TAW. Nid yw’r mislif yn rhywbeth moethus, mae’n rhywbeth anhepgor. Nid yw menywod yn dewis cael mislif. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad yr Alban a darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

Rydym yn mynnu y caiff achosion o fwlio eu cofnodi ac y gweithredir arnynt drwy system gofnodi well, teledu cylch cyfyng, adrodd, a chyswllt gorfodol â rhieni.

 

merch bryderus, yn ei harddegau yn siarad â menyw

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/02/2019.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/02/2019