Bioamrywiaeth - Cynllun Nwyddau Cyhoeddus
Bioamrywiaeth - Cynllun Nwyddau Cyhoeddus
Cynhaliodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad ar fioamrywiaeth.
Cefndir
Yn ei Adroddiad ar Gyflwr
Adnoddau Naturiol Cymru (SoNaRR), daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad fod
llawer o rywogaethau yng Nghymru yn dirywio ac nad oes unrhyw gynefin yn
wirioneddol 'gydnerth'. Dangosodd adroddiad cydweithredol gan gyrff
anllywodraethol, Cyflwr Natur, fod 57% o rywogaethau planhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar
wedi dirywio dros y tymor hir (1970-2013) yng Nghymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddyletswydd
o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gryfhau ecosystemau a chynnal a
gwella bioamrywiaeth. Mae Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r cyfleoedd, y blaenoriaethau a'r risgiau
mewn perthynas â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Mae gan
Lywodraeth Cymru Gynllun Adfer Natur hefyd a nod hwn yw mynd i'r afael â’r rhesymau sylfaenol dros ddirywiad
bioamrywiaeth.
Mae rhanddeiliaid wedi pwysleisio mai'r cyfle arwyddocaol
nesaf i Lywodraeth Cymru adfer a gwella bioamrywiaeth yw drwy’r polisi rheoli
tir y bydd yn ei gyflwyno yn y dyfodol, yn enwedig y cynllun Nwyddau Cyhoeddus
arfaethedig a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad ynghylch Brexit a’n Tir.
Mae monitro bioamrywiaeth yn agwedd bwysig ar fonitro
llwyddiant cynlluniau amgylcheddol. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Raglen Monitro a Gwerthuso
Glastir i asesu perfformiad y cynllun. Yn ddiweddar, cyflwynodd
Llywodraeth Cymru Raglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig
(ERAMMP) i greu sail dystiolaeth gref i’w defnyddio ar gyfer dangosyddion
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol
(SoNaRR), y Polisi Adnoddau Naturiol a'r Rhaglen Ddatgarboneiddio.
Yn yr ymchwiliad newydd hwn, bydd y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn archwilio gwaith adfer bioamrywiaeth
yng nghyd-destun y cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig.
Cylch
gorchwyl yr ymchwiliad:
- Sut y gellid cymhwyso cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru, sydd
wedi’i nodi yn Brexit a’n Tir, er mwyn adfer bioamrywiaeth;
·
Sut y gellid cymhwyso amryw bolisïau a deddfau cyfredol Llywodraeth Cymru ym maes adfer bioamrywiaeth
at y gwaith o lunio a gweithredu’r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arferthedig; a
·
Pha wersi y gellir eu dysgu o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMGG) i sicrhau bod cynlluniau
i helpu i adfer bioamrywiaeth yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n effeithiol? Ym mha ffordd y dylai’r Rhaglen Monitro a Modelu ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig
(ERAMMP) newydd gael ei llunio a’i gweithredu’n effeithiol at y diben hwn?
Casglu tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor
sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei waith ar 7 Chwefror 2019
a 21 Chwefror
2019.
Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth ysgrifenedig gan rhanddeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad:
Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru (PDF 2MB) ar 23
Hydref 2019.
Ymatebodd
(PDF 188KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Rhagfyr 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2018
Dogfennau
- Adroddiad ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru: adfer bioamrywiaeth - 23 Hydref 2019
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru: adfer bioamrywiaeth - 4 Rhagfyr 2019
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 4 Rhagfyr 2019 PDF 1 MB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 23 Hydref 2019 PDF 88 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd - 13 Chwefror 2019 PDF 288 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - 21 Chwefror 2019 PDF 1 MB
Ymgynghoriadau
- Bioamrywiaeth - Cynllun Nwyddau Cyhoeddus (Wedi ei gyflawni)