P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad
P-05-849
Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig
gorau posibl ar gyfer canser y prostad.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stuart Davies, wedi iddi gasglu 5,916 o
lofnodion ar-lein a 429 ar bapur, sef cyfanswm o 6,345 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Yr ydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw
ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar
unwaith a sicrhau bod sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig (mpMRI)
o ansawdd uchel cyn biopsi ar gael i bob dyn cymwys yng Nghymru lle mae
amheuaeth bod arno ganser y prostad.
Pam mae angen y ddeiseb hon?
Gall fod yn anodd gwneud diagnosis ar gyfer canser y prostad. Ers blynyddoedd,
mae biopsïau i ddynion wedi bod yn ymyrrol ac yn boenus. Weithiau gallant
arwain at heintiau difrifol - ni ddylai dyn gael biopsi oni bai bod rhaid.
Mae cynnal biopsi cyn cynnal sgan mpMRI yn golygu defnyddio cyfres o nodwyddau
i godi samplau o feinwe ar hap o'r prostad, i weld a oes celloedd canseraidd. Y
broblem gyda'r technegau hyn yw bod bylchau rhwng y nodwyddau, sy'n golygu bod
canserau sylweddol weithiau'n mynd heb eu canfod os nad oes sampl o'r rhan
honno o feinwe. Gall biopsi arwain at ganlyniadau positif anghywir, sef
diagnosis o ganser nad yw'n arwyddocaol yn glinigol, a gall hyn arwain at
or-drin cleifion yn ddiangen.
Gellir defnyddio sganiau mpMRI ar y cyd â phrofion eraill i gynyddu nifer y
canserau prostad ymosodol sy'n cael eu darganfod ynghynt. Profwyd bod cynnal
sganiau mpMRI i safon ddigonol hefyd yn lleihau yn ddiogel nifer y dynion a
allai gael biopsi yn ddiangen, a hynny drwy gadarnhau nad oes arnynt ganser y
prostad yn gynharach yn y broses.
Beth yw mpMRI?
Ystyr mpMRI yw delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig. Mae'n cyfuno hyd at
dri math gwahanol o sgan i greu delwedd gliriach o'r hyn sy'n digwydd yn y
prostad. Hefyd, mae chwistrelliad lliw yn golygu y gellir gwella delweddau'r
sganiau i allu gweld yn gliriach a oes canser yn bresennol ai peidio. Mae hyn
yn wahanol i sgan MRI safonol, sy'n creu delwedd o organau mewnol. Yn aml iawn,
nid yw delweddau MRI yn ddigon clir i wneud diagnosis o ganser cynnar y prostad
gyda sicrwydd.
Beth sy'n digwydd yng Nghymru?
O'r saith Bwrdd Iechyd sydd yng Nghymru, tri sy'n darparu mpMRI cyn biopsi. Dim
ond un bwrdd sy'n defnyddio mpMRI i safon ddigon uchel i allu cadarnhau yn
ddiogel nad oes angen biopsi ar ddyn. Mae hyn yn golygu nad oes gan ddynion
mewn pedwar Bwrdd Iechyd fynediad at mpMRI fel prawf diagnostig, oni bai eu bod
yn talu dros £900 i'w gael yn y sector preifat.
Mae rhagor o wybodaeth am mpMRI a biopsïau yma:
https://prostatecanceruk.org/prostate-information/prostate-tests/introduction-to-prostate-tests
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
De Clwyd
·
Gogledd Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd
y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o
adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng
nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad
sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/12/2018.
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2018