Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Ar 6 Mai, daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru, a chyfeirir at y sefydliad yn gyffredin fel y Senedd. O ganlyniad, mae cyfeiriadau yn y ddogfen hon yn adlewyrchu’r newid enw, ac yn cyfeirio at y sefydliad fel y ‘Cynulliad’ mewn cyd-destun hanesyddol (cyn 6 Mai 2020) ac fel y ‘Senedd’ ar ôl hynny.

 

Yn ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-21, mae'r Bwrdd Taliadau yn amlinellu ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021.

Fel y gwyddoch, ategir gwaith y Bwrdd gan egwyddorion sy'n cynnwys y dylai'r cymorth ariannol a'r taliadau i Aelodau gefnogi diben strategol y Cynulliad; a bod yn rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru. Mae'r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod ei Benderfyniad yn adlewyrchu cymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y mae Aelodau'n ymgymryd â hwy, ac nad yw'n rhwystro unigolion, am resymau ariannol, rhag ceisio cael eu hethol i'r Cynulliad. Gan hynny, mae'r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:

  • addasrwydd lefel y gefnogaeth a ddarperir yn y Penderfyniad;
  • hyblygrwydd, rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau;
  • gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael.

Cytunodd y Bwrdd ar sut y bydd yn adolygu'r Penderfyniad yn ei gyfarfod ar 11 Hydref 2018. Caiff yr adolygiad ei rannu'n dair. Ar ôl ystyried pob rhan o'r gwaith, bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ymgynghoriad i geisio barn am ei gynigion i ddiwygio unrhyw ddarpariaethau yn y rhan honno. Wedi i'r Bwrdd gwblhau ei adolygiad o'r tair rhan o'r adolygiad, caiff ymgynghoriad terfynol ei gyhoeddi i geisio barn am y Penderfyniad yn ei gyfanrwydd, a hynny i sicrhau bod y pecyn cymorth ariannol i'r Aelodau yn parhau i fod yn addas at y diben. Mae manylion y materion sydd ym mhob rhan o'r adolygiad a'r dyddiadau ymgynghori posibl wedi'u nodi isod:

 

Materion i'w hystyried

Y dyddiadau ymgynghori posibl

Rhan un

-     Gwariant ar lety preswyl (pennod 4)

-     Siwrneiau'r Aelodau (pennod 5)

-     Lwfans costau swyddfa (pennod 6)

Gwanwyn 2019

Rhan dau

-     Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad (pennod 7)

-     Cymorth ar gyfer y pleidiau gwleidyddol (pennod 8)

Haf 2019

Rhan tri

-     Taliadau Aelodau (pennod 3)

-     Aelodau sy'n gadael y swydd (pennod 9)

Dechrau'r hydref 2019

Ymgynghoriad llawn:

Holl ddarpariaethau'r Penderfyniad

Diwedd yr hydref 2019

Er gwybodaeth yn unig y mae'r dyddiadau ymgynghori a gallent newid. Caiff manylion llawn pob ymgynghoriad eu cyhoeddi ar wefan y Bwrdd.

Pe bai'r Comisiwn yn penderfynu cyflwyno deddfwriaeth fel rhan o'i Raglen Diwygio'r Cynulliad, mae'r Bwrdd yn ymwybodol y byddai gofyn iddo ystyried yr angen i gynnig unrhyw newidiadau pellach i'r Penderfyniad i adlewyrchu'r cynigion deddfwriaethol. Bydd y Bwrdd yn monitro'r rhaglen Diwygio'r Cynulliad wrth iddi ddatblygu, i sicrhau bod ei Benderfyniad yn ystyried newidiadau cyfansoddiadol a'i fod yn rhoi cyfle i'r Aelodau ymgymryd â'u rôl yn effeithiol ar ran pobl Cymru.

Ymgynghoriad ar rhan un

Ar 1 Ebrill lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion sy’n deillio o ran gyntaf ei Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â phenodau y Penderfyniad ar Wariant ar Lety Preswyl, ar Gostau Swyddfa ac ar Siwrneiau Aelodau.

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 7 Mehefin 2019.

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019. Ceir manylion llawn ynghylch penderfyniad y Bwrdd yma.

 

Ymgynghoriad ar rhan dau

Ar 11 Gorffennaf, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion yn deillio o ran 2 o’i Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â’r penodau yn y Penderfyniad ar y cymorth i Aelodau’r Cynulliad a Grwpiau Gwleidyddol.

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 11 Hydref 2019. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019. Ceir manylion llawn ynghylch penderfyniad y Bwrdd yma.

 

 

Ymgynghoriad ar ran tri

Ar 30 Medi, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion, sy’n deillio o ran tri o’i Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn gysylltiedig â’r penodau yn y Penderfyniad sy’n ymwneud â thaliadau Aelodau, darpariaeth dirwyn i ben, a chymorth ychwanegol i Aelodau.

 

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Llun 11 Tachwedd 2019. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019. Ceir manylion llawn ynghylch penderfyniad y Bwrdd yma.

 

Cyhoeddi Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyfer y Chweched Senedd 

Ar dydd Iau 4 Mehefin 2020 mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi ei Benderfyniad sy'n nodi'r tâl a'r lwfansau sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd yn dilyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.  

Mae’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd wedi’i gyhoeddi ym mis Mehefin 2020 er mwyn sicrhau bod y rheini sy'n ystyried sefyll etholiad ym mis Mai 2021 yn glir ynghylch y tâl a'r cymorth a fydd ar gael iddynt os cânt eu hethol. Ni ddaw'r Penderfyniad hwn i rym tan ar ôl etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.

 

 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau