Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol

Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr ynghylch datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol.

Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel is-gwmni dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru sy’n gyfyngedig drwy warant. Ei bwrpas cychwynnol oedd caffael a datblygu/gweithredu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yng Nghymru a’r gwasanaethau Metro a chledrau’r Cymoedd – contract a ddyfarnwyd i KeolisAmey ym mis Mehefin 2018.  Dechreuodd gwasanaethau “TrC Trenau” ar 14 Hydref 2018.

Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru; ar hyn o bryd mae’n ystyried swyddogaethau ychwanegol y gallai’r sefydliad eu hysgwyddo ac yn datblygu achos busnes.

Cylch gorchwyl

Hoffai'r Pwyllgor glywed eich barn ar drefniadau llywodraethu a datblygiad Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • A yw trefniadau llywodraethu, strwythur a chyllid Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn effeithiol ac yn dryloyw.
  • Pa gamau y dylid eu cymryd i ddatblygu'r agweddau hyn ar y sefydliad? A pha fodelau llywodraethu eraill ac arferion da sydd ar gael?
  • Rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol wrth weithredu polisi trafnidiaeth. Pa gyfrifoldebau ychwanegol y dylai'r corff eu hysgwyddo a sut ddylai'r rhain integreiddio gyda rôl Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/11/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau