Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Yn unol â’r Nodiadau Esboniadol sy’n cyd-fynd â Bil Pysgodfeydd, bydd yn darparu’r fframwaith cyfreithiol i’r Deyrnas Unedig weithredu fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr 1982 (UNCLOS) ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (y PPC). Mae’r Bil yn creu dulliau cyffredin o ran rheoli pysgodfeydd rhwng llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ac yn gwneud diwygiadau i’r dull rheoli pysgodfeydd yn Lloegr.

 

Cyflwynwyd y Bil Pysgodfeydd y DU (y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 25 Hydref 2018.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 15 Tachwedd 2018. Ar 10 Ionawr 2019, gosododd Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF, 951KB) ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Chwefror 2019.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad (PDF, 709KB) ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Chwefror 2019.

 

Methodd y Bil â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y diddymiad. Mae hyn yn golygu na fydd y Bil yn symud ymlaen ymhellach.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau