Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd
Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o
fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Yn unol â’r Nodiadau Esboniadol sy’n cyd-fynd â Bil
Pysgodfeydd, bydd yn darparu’r fframwaith cyfreithiol i’r Deyrnas Unedig
weithredu fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol dan Gonfensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Gyfraith y Môr 1982 (UNCLOS) ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (y PPC). Mae’r Bil yn creu dulliau
cyffredin o ran rheoli pysgodfeydd rhwng llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau
Datganoledig ac yn gwneud diwygiadau i’r dull rheoli pysgodfeydd yn Lloegr.
Cyflwynwyd y Bil
Pysgodfeydd y DU (y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 25 Hydref 2018.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 15
Tachwedd 2018. Ar 10
Ionawr 2019, gosododd Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad
(PDF, 951KB) ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Chwefror 2019.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad
(PDF, 709KB) ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Chwefror 2019.
Methodd y Bil â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y
diddymiad. Mae hyn yn golygu na fydd y Bil yn symud ymlaen ymhellach.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2018
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - 15 Tachwedd 2018
- Amserlen Pwyllgor Busnes - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Pysgodfeydd- 27 Tachwedd 2018 PDF 56 KB Gweld fel HTML (2) 41 KB
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 10 Ionawr 2019
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad (PDF 709KB)
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 11 Ionawr 2019 PDF 163 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch trafodaethau gyda'r Uwch Grŵp Llywio ar y Môr a Physgodfeydd mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU PDF 941 KB
- Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 27 Mawrth 2019 PDF 341 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig PDF 1 MB
- Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU - 12 Chwefror 2019
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - 27 Mawrth 2019 PDF 506 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (Saesneg yn unig) - 19 Chwefor 2019 PDF 494 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwylldor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 12 Chwefror 2019 PDF 65 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 17 Ebrill 2019 PDF 1 MB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Brif Weinidog Cymru ynghylch craffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol - 28 Chwefror 2019 PDF 123 KB
- Ymateb gan Brif Weinidog Cymru i 'r llythyr gan y Cadeirydd ynghylch craffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol - 22 Mawrth 2019 PDF 286 KB
Ymgynghoriadau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pysgodfeydd y DU (Wedi ei gyflawni)