P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Wedi'i gwblhau

P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan CALM (Campaign Against the Levels Motorway). Mae'r ddeiseb wedi casglu 12,270 o lofnodion ar wefan e- ddeiseb arall.

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rhowch y gorau i’r cynlluniau i adeiladu traffordd yr M4 ar draws harddwch Gwastatir Gwent a buddsoddwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.

 

Pam mae hyn yn bwysig?

 

Bydd y cynlluniau presennol i ymestyn traffordd yr M4 yn peryglu dyfrgwn, gwenyn prin a blodau gwyllt. Byddai’n torri ar draws fersiwn Cymru o 'Goedwig Law Amazon', Gwastatir Gwent, sy’n hafan i fywyd gwyllt. Mae angen gwella’r traffig o amgylch Casnewydd, ond byddai’n well i Gymru a’r amgylchedd pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Os ydym eisiau gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni feddwl am opsiynau amgen yn lle traffyrdd llygredig mawr. Mae rheolydd a chyrff cynghori y Cynulliad ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn.

 

 

A car driving down a busy highway

Description generated with high confidence

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4 Mehefin, y gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, a llwyddiant y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/11/2018.

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Gwelliant

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2018