P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

Wedi'i gwblhau

 

P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sharon Ellis, ar ôl casglu 127 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr un trefniadau ariannu ar gael i fyfyrwyr ble bynnag mae nhw'n dewis astudio, a bod yr opsiynau ariannu hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu hastudiaethau.

 

Ar hyn o bryd mae gan fyfyrwyr y dewis i astudio yn y DU ac Iwerddon ac mae rhywfaint o opsiynau astudio yn Ewrop ar gael, ond pam na allant astudio ar gyfer gradd gydnabyddedig ledled y byd os yw'r rhaglen y maent yn ei dewis yr un mwyaf addas i'w hamcanion gyrfa cyffredinol.

 

Yn 2017, derbyniwyd Georgia Ellis ar y cwrs Doethuriaeth mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Quinnipiac yn yr Unol Daleithiau. Mae'r radd bagloriaeth yn radd y celfyddydau breiniol sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau safonol, gan gynnwys siarad cyhoeddus, ac fel rhan o'r broses o ennill ei gradd israddedig bydd Georgia'n astudio maes arall o'i dewis, sef Astudiaethau Busnes. Er bod y rhain yn fanteision gwych, dewisodd Georgia yr opsiwn astudio hwn gan mai ei huchelgais yw dod yn ffisiotherapydd ar gyfer tîm chwaraeon yn y pen draw, ac oherwydd yr amlygiad i dimau chwaraeon y byddai'n ei gael yng nghanolfan bwrpasol hyfforddiant iechyd y Brifysgol arbennig hon.

 

Pam na all myfyrwyr fanteisio ar yr un trefniadau ariannu ag y byddai ganddynt yma yn y DU ar gyfer cyllido opsiynau astudio eraill. Mae stori Georgia yn ddim ond un enghraifft o safon dda myfyrwyr y DU, ond mae llawer mwy.

Arwyddwch y ddeiseb hon i gefnogi'r opsiynau sydd ar gael i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.

A picture containing person

A picture of coins and bank notes

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/01/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ymateb diamwys a gafwyd gan y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod hi'n debyg nad oes gobaith gwirioneddol o newid yr agwedd hon ar bolisi cyllido myfyrwyr.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/11/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

        Alun a Glannau Dyfrdwy

        Gogledd Cymru 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/11/2018