Iechyd Meddwl Amenedigol – Gwaith dilynol

Iechyd Meddwl Amenedigol – Gwaith dilynol

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg waith dilynol ar ei ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.

 

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i weld a yw'r gwaith a wnaed ers cyhoeddi'r adroddiad (PDF 195MB) wedi gwneud gwahaniaeth.

Chwefror 2020

Rhoddodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru dystiolaeth yn y cyfarfod ar 26 Chwefror 2020.

Hydref 2019

Ar 1 Hydref 2019, rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad (PDF 261KB) i'r Pwyllgor. Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad hwn yn ei gyfarfod ar 24 Hydref 1019. Ar sail yr ymateb, penderfynodd y Pwyllgor wneud rhagor o waith ar iechyd meddwl amenedigol. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

  • gwahodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol i roi tystiolaeth mewn cyfarfod Pwyllgor ffurfiol;
  • gwahodd WHSSC a chynrychiolydd o BIP Bae Abertawe a BIP Betsi Cadwaladr i roi tystiolaeth mewn cyfarfod Pwyllgor ffurfiol, er mwyn trafod darpariaeth MBU yn benodol;
  • ofyn am ddatganiad gan y Cadeirydd yn y cyfarfod llawn ar ddyddiad priodol yn y dyfodol er mwyn tynnu sylw Senedd Cymru at y cynnydd yn y Siambr.

 

Mai 2019

Ysgrifennodd (PDF 78.7KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Chwefror 2019

Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 10 Ionawr 2019, ysgrifennodd y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF 81.4KB) yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Cafwyd ymateb (PDF 370KB) gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 7 Chwefror 2019.

Ionawr 2019

Yn y cyfarfod ar 10 Ionawr craffwyd ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran cynnydd mewn cysylltiad â gweithredu argymhellion yr adroddiad.

Hydref 2018

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol diweddariad (PDF 452KB) ar argymhellion yr adroddiad.

 

Tachwedd 2018

Bu’r Pwyllgor yn ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru.

 

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

PMH(2) 01 Seicotherapydd Plant a’r Glasoed (PDF 127KB)

PMH(2) 02 NSPCC, NCMH, Mind Cymru, y Sefydliad Iechyd Meddwl a’r Gynghrair Iechyd Meddwl Mamol (PDF 520KB)

PHM(2) 03 Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PDF 172KB)

PMH(2) 04 Dechrau'n Deg Caerdydd (PDF 199KB)

PMH(2) 05 Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru (PDF 522KB)

PMH(2) 06 Bliss (PDF 551KB)

PMH(2) 07 Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PDF 196KB)

PMH(2) 08 Mind Cymru (PDF 47KB)

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2018

Dogfennau