Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion
Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i hawliau pleidleisio
i garcharorion.
Cylch
gorchwyl:
Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:
- Dadleuon o blaid ac yn erbyn rhoi'r hawl i rai
carcharorion, neu bob un, bleidleisio yn etholiadau Cymru, ac a ellid
gwahaniaethu rhwng categorïau gwahanol o garcharor ar sail hyd y ddedfryd,
dyddiad rhyddhau disgwyliedig, neu fathau o drosedd;
- Materion ymarferol, megis cofrestru etholiadol (gan
gynnwys cyfeiriad), dull pleidleisio, ymgysylltiad carcharorion â'r broses
wleidyddol, rhoi gwybodaeth ac addysg o ran gwleidyddiaeth a
dinasyddiaeth;
- Materion trawsffiniol oherwydd bod carcharorion o
Gymru yn cael eu carcharu yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb.
- A yw ystyriaethau arbennig yn cynnwys troseddwyr
ifanc yn y ddalfa os estynnir yr hawl i bleidleisio i bobl 16 ac 17 oed yn
gyffredinol; ac
- Ymagweddau gwledydd eraill o ran hawl carcharorion i
bleidleisio.
Tystiolaeth
Cynhaliodd y
Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor. Gellir gweld
tabl ohonynt isod. Yn ogystal, ymgynghorodd
y Pwyllgor ar y pwnc hwn.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, agenda a chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Canolfan
Llywodraethiant Cymru Dr Robert Jones, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru Dr Greg Davies, Cydymaith Ymchwil |
|||
2. Yr Ymddiriedolaeth
Diwygio Carchardai Mark Day, Head of Policy and Communications, Prison Reform Trust |
|||
3. Cymru Ddiogelach Bernie Bowen-Thompson, Chief Executive, Safer Wales |
|||
4. Bwrdd Cyfiawnder
Ieuenctid Darren Trollope |
|
||
5. Comisiwn Etholiadol yng Nghymru Elan Closs Stephens CBE, Comisiynydd Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol
yng Nghymru Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol
yng Nghymru Rhys George, Cadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas y Gweinyddwyr
Etholiadol Amanda Bebb, Dirprwy Gadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas y Gweinyddwyr
Etholiadol Peter Stanyon, Prif Weithredwr, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol |
|||
6. Comisynydd
Dioddefwyr Y Farwnes Newlove, y Comisynydd Dioddefwyr |
|||
7. Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie
James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Lisa
James, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol Gareth
Thomas, Cynghorydd Polisi, Diwygio Etholiadol (Is-adran Llywodraeth Leol) |
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Hawliau
Pleidleisio i Garcharorion (PDF, 1MB) ddydd Mawrth 11 Mehefin. Wrth gyhoeddi'r
adroddiad, dywedodd John
Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio yn bwnc llosg. Mae dadl gref
o blaid ac yn erbyn. Rydym wedi ymdrechu i sicrhau ein bod yn clywed pob ochr
i’r ddadl ac yn eu hystyried yn ofalus. Roedd trwch y dystiolaeth a gawsom, yn
ysgrifenedig, yn ystod ymweliadau, ac mewn cyfarfodydd pwyllgor yn glir o blaid
rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio. Gan mwyaf, roedd y dystiolaeth o blaid
ymestyn yr etholfraint i bob carcharor.”
Mae fideo byr ar yr adroddiad i’w weld isod.
YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/Ql4V4DeEyig
Cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru (PDF, 128KB) a Chomisiwn
y Cynulliad (PDF, 278KB) eu hymatebion i adroddiad y Pwyllgor ar hawliau
pleidleisio i garcharorion ar 24 Gorffennaf 2019.
Cynhaliwyd dadl
ar yr adroddiad yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher 25 Medi 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/11/2018
Dogfennau
- Gohebiaeth
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Kevin Foster AS, Gweinidog y Cyfansoddiad, Llywodraeth y DU - 25 Hydref 2019 (Saesneg yn unig)
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland QC AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder - 25 Hydref 2019 (Saesneg yn unig)
- Llythyr gan y Llywydd – 18 Medi 2019 PDF 177 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – 18 Medi 2019 PDF 259 KB
- Llythyr at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 26 Gorffennaf 2019 PDF 641 KB
- Llythyr at y Llywydd - 26 Gorffennaf 2019 PDF 1 MB
- Ymateb Comisiwn y Cynulliad i’r adroddiad – 23 Gorffennaf 2019 PDF 373 KB Gweld fel HTML (8) 23 KB
- Gohebiaeth gan Gyngor Caerdydd at Jenny Rathbone AC - Cofrestru pleidleiswyr sydd ar remánd a charcharorion cymwys eraill yng Ngharchar Caerdydd - 2 Mai 2019 (Saesneg yn unig) PDF 178 KB
- Gohebiaeth gan Jenny Rathbone AC at Gyngor Caerdydd – Cofrestru pleidleiswyr sydd ar remánd a charcharorion cymwys eraill yng Ngharchar Caerdydd - 1 Mai 2019 (Saesneg yn unig) PDF 167 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 2 Ebrill 2019 PDF 688 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 26 Mawrth 2019
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit - 21 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig) PDF 495 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Materion Cyfansoddiadol, Llywodraeth Yr Alban - 12 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig) PDF 72 KB
- Nodiadau cryno o ymweliad y Pwyllgor at Garchar Ei Mawrhydi y Parc – 17 Ionawr 2019 PDF 186 KB
- Llythyr at y Llywydd - 6 Tachwedd 2018 PDF 69 KB
Ymgynghoriadau
- Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (Wedi ei gyflawni)