P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol

P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol

Wedi'i gwblhau

P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Benji Poulton, ar ôl casglu 278 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried yn ffurfiol y cynnig amgen ar gyfer trydedd bont dros y Fenai, a gaiff ei hadnabod fel 'Pont Bendigeidfran' (fel y'i disgrifir yn y fideo hwn https://www.youtube.com/watch?v=Ty2q-ctJZKM).

 

Mae'r cynnig hwn yn cynnig buddion cynyddol o ran cost oes gyfan, ei allu i wella'r tirlun arbennig, buddion o ran traffig (o ran llif traffig a chadernid y rhwydwaith), lleddfu amgylcheddol, hybu twristiaeth, a hyrwyddo diwylliant Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd yn well â'r ddeddfwriaeth gyfredol, er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ymddengys bod modd cyflawni'r cynnig hwn o safbwynt peirianyddol, a bydd yn ychwanegiad mwy priodol i'r ddwy bont fyd enwog y ceir eioes yn y lleoliad hwn.

 

Rydym felly'n galw am asesu'r cynnig amgen hwn yn llawn ochr yn ochr â'r opsiynau gwreiddiol a gyflwynwyd yn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch trydedd bont dros y Fenai.

 

Petitioner handing in a petition to the Petitions Committee

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/12/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ddarparu manylion cyswllt y deisebydd i'r tîm sy'n ystyried dyluniadau posibl ar gyfer y bont newydd. Yn sgil yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd cynnig Pont Bendigeidfran yn cael ei asesu fel rhan o'r gwaith dylunio ar gyfer y bont, cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/10/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Arfon

·         Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2018