P-04-341 Llosgi gwastraff

P-04-341 Llosgi gwastraff

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i:

  • adolygu’r Prosiect Gwyrdd, sy’n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru o ddarparu cyfleusterau yn lleol a chaniatáu i’n cynghorau ddewis eu systemau caffael eu hunain ar gyfer rheoli gwastraff a thechnoleg gwastraff;
  • adolygu’r arolwg diffygiol ar wastraff yng Nghymru a oedd yn rhoi dau ddewis yn unig i bobl ynghylch gwaredu gwastraff;
  • erbyn 2020, ei gwneud yn anghyfreithlon i losgi gwastraff y gellir ei ailgylchu gan y byddai hyn yn annog cynghorau i ailgylchu.

 

Prif ddeisebydd:
Terry Evans

 

Nifer y deisebwyr:

21 (Casglwyd deiseb gysylltiedig 13,286 o lofnodion hefyd)

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Dogfennau