P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
P-05-837
Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Welsh
Anti Nuclear Alliance, ar ôl casglu 1,028 o lofnodion ar-lein a 288 o
lofnodion ar bapur, cyfanswm o 1,316 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn
ffynonellau ynni adnewyddadwy gwyrdd, i leihau'r angen am danwydd ffosil ac
ynni niwclear yng Nghymru. Yn fwy penodol:
- I gefnogi technolegau carbon isel sy'n dod
i'r amlwg a allai roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni adnewyddadwy, a
helpu i arafu newid yn yr hinsawdd; a
- Buddsoddi mewn ffynonellau ynni nad ydynt
yn gadael gwaddol o wastraff ymbelydrol, tyllau sbwriel a niwed i iechyd
a'r amgylchedd.
Rydym yn cymeradwyo sefydlu "Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015", gan ei bod yn rhoi cyfle enfawr i wneud newidiadau cadarnhaol a
pharhaol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, yn enwedig o ran ynni
glân.
Cytunwn â'r Datganiad Ynni gan Lesley Griffiths ar 6/12/2016 pan ddywedodd fod
gan y Cynulliad dair blaenoriaeth. Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a
ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn ail, byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a
gynhyrchir o danwydd ffosil. Yn drydydd, byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i
reoli’r broses o newid i economi carbon isel. Dylid cynnwys gostyngiad o ran
niwclear hefyd, fodd bynnag, gan nad yw'n ddewis adnewyddadwy na charbon isel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gorsafoedd ynni niwclear
yn dibynnu ar wraniwm i weithredu, ac mae cryn dipyn o garbon yn cael ei
ryddhau wrth gloddio, malu a gwahanu'r wraniwm o'r mwyn, ac yna mae'n rhaid ei
gludo. Mae’r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer wraniwm yn nodi y bydd y cronfeydd
wrth gefn yn para am 50 - 70 mlynedd a pho uchaf y bo’r galw, po fwyaf o fwynau
y bydd yn rhaid eu prosesu. Bydd hyn yn arwain at gydbwysedd CO2 ar gyfer ynni
atomig sy'n gwaethygu fwyfwy dros amser (JW Storm van Leeuwen a P. Smith,
'Nuclear Power: The Energy Balance', www.stormsmith.nl.)
"Ni ellir adnewyddu ynni niwclear a byddai wraniwm y Ddaear yn diflannu yn
y pen draw, sy’n golygu ein bod, yn wir, yn amddifadu cenedlaethau’r dyfodol
rhag ei ddefnyddio mewn ffyrdd newydd a llai niweidiol yn y dyfodol."
(Sophie Howe - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2018 wrth gefnogi
Morlyn Llanw Abertawe)
"Mae honiadau bod ynni niwclear yn ffynhonnell ynni 'carbon isel' yn cael
eu chwalu pan greffir ar y ffeithiau. Ymhell o’r canlyniad o chwe gram o CO2
fesul uned drydan ar gyfer Hinkley C, fel y cred Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd
y DU, mae'n debyg bod y gwir ffigur yn fwy na 50 gram – sy’n torri'r terfyn a argymhellir
gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd o ran ffynonellau newydd ar gyfer cynhyrchu
ynni y tu hwnt i 2030." (Yr Athro Keith Barnham https://theecologist.org/2015/feb/05/false-solution-nuclear-power-not-low-carbon).
Statws
Yn ei gyfarfod ar 19/11/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a nododd yr Aelodau eu siom na
chafwyd ymateb i ohebiaeth flaenorol gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a
Newid Hinsawdd.
Fodd bynnag,
yn sgil y ffaith bod penderfyniadau ynghylch datblygu Wylfa Newydd yn destun
ymchwiliad cynllunio ac y byddant yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn y
pen draw, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer o graffu
pellach a allai gyfrannu’n ddefnyddiol at y broses hon.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 09/10/18
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
Brycheiniog a Sir
Faesyfed
·
Canolbarth a Gorllewin
Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2018