Rheoliadau Drafft ar Gyllidebau Carbon 2019

Rheoliadau Drafft ar Gyllidebau Carbon 2019

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu uchafswm ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr net Cymru, sef cyllideb garbon. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw allyriadau net Cymru ar gyfer pob cyfnod yn fwy na'r gyllideb garbon am y cyfnod hwnnw. Y cyfnod cyllidebol cyntaf yw 2016-2020, a'r cyfnodau cyllidebol sy'n weddill yw pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, sy'n gorffen gyda 2046-2050.

Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru bennu 2 gyllideb garbon olynol ar gyfer y cyfnodau 2016-2020 a 2021-2025 cyn diwedd 2018.  Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n gyfrifol am graffu ar y rheoliadau drafft sy'n pennu'r cyllidebau carbon hyn.  Bydd y Pwyllgor yn llunio adroddiad ar ei ganfyddiadau, a gaiff ei osod gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Cyfnod 1

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/11/2018

Dogfennau