Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru
Mae Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i
Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru
Crynodeb
Mae'r Pwyllgor
Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi'n cynnal ymchwiliad i ymchwil ac
arloesedd yng Nghymru cyn y Bil arfaethedig ar gyfer Addysg a Hyfforddiant
Ôl-orfodol. Bydd y Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu cyn deddfu ar weithgarwch
ymchwil ac arloesedd prifysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru a sut y mae'n
gysylltiedig â busnesau.
Cylch gorchwyl
Er mwyn gwneud hyn,
bydd y Pwyllgor yn edrych ar y canlynol:
- Cyllid ar gyfer gweithgarwch ymchwil
ac arloesi, gan roi sylw i'r canlynol:
- Y cydbwysedd
rhwng cyllid ar gyfer ymchwil sylfaenol (na fydd ganddi werth masnachol
uniongyrchol) a chyllid ar gyfer ymchwil gymhwysol sydd â photensial
arloesi mwy uniongyrchol.
- Y gwahaniaethau
rhwng cyllid ymchwil ac arloesi ar gyfer prifysgolion a chyllid ar gyfer
busnesau.
- Sut i atal buddiannau ymchwil ac
arloesi prifysgolion a cholegau rhag bwrw buddiannau ymchwil ac arloesi
diwydiant i'r cysgod.
- Entrepreneuriaid ymhlith myfyrwyr a
graddedigion a'r cymorth sydd ar gael iddynt.
- Sut mae prifysgolion a busnesau (yn
enwedig busnesau bach a chanolig) yn rhyngweithio â'i gilydd, gan roi sylw
penodol i'r canlynol:
- Sut y maent yn
trosglwyddo neu'n cymhathu'r wybodaeth a geir o ymchwil.
- Y cymhellion
a'r gwobrau am ryngweithio.
- Sut y gellir
rhyngweithio'n well.
YouTube-Here
https://www.youtube.com/embed/hLW1t-icPuw
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/08/2018
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru - Ebrill 2019
PDF 697 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 306 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)