Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru

Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru

Crynodeb

Mae'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi'n cynnal ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru cyn y Bil arfaethedig ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol. Bydd y Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu cyn deddfu ar weithgarwch ymchwil ac arloesedd prifysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru a sut y mae'n gysylltiedig â busnesau.

Cylch gorchwyl

Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y canlynol:

  • Cyllid ar gyfer gweithgarwch ymchwil ac arloesi, gan roi sylw i'r canlynol:
    • Y cydbwysedd rhwng cyllid ar gyfer ymchwil sylfaenol (na fydd ganddi werth masnachol uniongyrchol) a chyllid ar gyfer ymchwil gymhwysol sydd â photensial arloesi mwy uniongyrchol.
    • Y gwahaniaethau rhwng cyllid ymchwil ac arloesi ar gyfer prifysgolion a chyllid ar gyfer busnesau.
  • Sut i atal buddiannau ymchwil ac arloesi prifysgolion a cholegau rhag bwrw buddiannau ymchwil ac arloesi diwydiant i'r cysgod.
  • Entrepreneuriaid ymhlith myfyrwyr a graddedigion a'r cymorth sydd ar gael iddynt.
  • Sut mae prifysgolion a busnesau (yn enwedig busnesau bach a chanolig) yn rhyngweithio â'i gilydd, gan roi sylw penodol i'r canlynol:
    • Sut y maent yn trosglwyddo neu'n cymhathu'r wybodaeth a geir o ymchwil.
    • Y cymhellion a'r gwobrau am ryngweithio.
    • Sut y gellir rhyngweithio'n well.

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/hLW1t-icPuw

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/08/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau