Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20

Rhaid i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru osod ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Cynulliad i ganiatáu i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar ei chynigion. Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith craffu, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi cyllideb derfynol, sydd i’w thrafod yn y Cyfarfod Llawn cyn y bleidlais i’w chymeradwyo gan y Cynulliad cyfan.

 

Gosododd Comisiwn y Cynulliad ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 (PDF, 8MB) gerbron y Cynulliad ym mis Medi 2018.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad yn trafod ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20 (PDF, 1MB) ym mis Hydref 2018.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2018

Dogfennau