NDM6745 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru

NDM6745 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru

NDM6745 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

 

2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i chefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig cynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygu proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2018

Angen Penderfyniad: 20 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Paul Davies AS