Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit?

Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit?

Cefndir

Ar 19 Mawrth 2018, cyhoeddodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE, David Davis, a Phrif Negodwr yr UE fod y DU a’r UE wedi dod i gytundeb gwleidyddol ynghylch y cyfnod pontio a chyhoeddwyd fersiwn bellach o’r testun cyfreithiol drafft ar gyfer y Cytundeb Ymadael [Saesneg yn unig].

 

Roedd paragraff 1 o Erthygl 127 o’r Cytundeb Ymadael yn nodi:

“Unless otherwise provided in this Agreement, Union law shall be applicable to and in the United Kingdom during the transition period.”

Roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar ddechrau archwilio beth allai’r trefniadau pontio fod a’r math o drefniadau y gallai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad eu paratoi cyn 29 Mawrth 2019.

 

Cylch gorchwyl

Nod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol oedd deall sut y byddai cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith yng Nghymru yn ystod cyfnod pontio Brexit (29 Mawrth i 31 Rhagfyr 2020), gan gynnwys rôl craffu Gweinidogion Cymru a’r Cynulliad.

Dyma rai o’r cwestiynau y gofynodd y Pwyllgor:

Ar lefel Cymru a’r DU

  • Pa broses fydd yn ei lle i drosi, gweithredu a gorfodi cyfraith yr UE yn ystod y cyfnod pontio?
  • Pa rôl ddylai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad ei chael yn y broses hon?
  • Pa drefniadau fydd angen i’r Cynulliad eu trafod o ran ei waith craffu?
  • Sut y gall gwaith craffu’r Cynulliad ryngweithio â system graffu Senedd y DU o ran materion Ewropeaidd?
  • A fydd strwythur rhynglywodraethol o fewn y DU wedi’i sefydlu i gefnogi’r broses hon (fel y Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewropeaidd cyfredol)?
  • Pa rôl y gall Aelodau’r Cynulliad ei chwarae wrth ddatblygu cynigion deddfwriaethol yr UE yn ystod y cyfnod pontio?
  • Sut bydd y ddau Fil ymadael (Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a’r Cytundeb Ymadael a'r Bil Gweithredu (Bil y DU)) yn rhyngweithio o ran y cyfnod pontio?

Ar lefel yr UE a’r DU

  • Sut y caiff barn Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad ar ddeddfau drafft yr UE mewn meysydd datganoledig ei chyfleu i’r Undeb Ewropeaidd?
  • A fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ar Gyd-bwyllgor yr UE a’r DU a fydd yn cael ei sefydlu o dan y cytundeb ymadael?
  • Sut ddylai’r Cynulliad graffu ar waith Gweinidogion Cymru yn y cyd-destun hwn?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2018

Dogfennau