Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Inquiry5

Cynhaliodd Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru diwygiedig a gyflwynwyd ar gyfer ei addysgu o fis Medi 2015. Edrychodd y Pwyllgor ar y cymhwyster yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16.

Canolbwyntiodd yr ymchwiliad yn benodol ar y canlynol:

·         I ba raddau y mae dysgwyr, rhieni, gweithwyr addysg mewn ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru;

·         I ba raddau y mae dysgwyr, gweithwyr addysg mewn ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn ystyried bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster trylwyr sy'n cyfateb i gymwysterau eraill;

·         Statws y cymhwyster Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion a cholegau, gan gynnwys targed Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y cymhwyster yn cael ei fabwysiadu'n gyffredinol, ac effaith bosibl y dull gweithredu hwn;

·         Yr effaith ehangach y mae astudio Bagloriaeth Cymru yn ei chael ar bynciau cwricwlwm eraill ac ar ddarpariaeth addysg;

 

Manteision ac anfanteision y cymhwyster Bagloriaeth Cymru i ddysgwyr, ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.

 

Casglu tystiolaeth

Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg gyda phobl ifanc a rhieni/gwarcheidwaid (PDF 434KB)

Mae fideo byr sy'n crynhoi canlyniadau'r arolwg ar gael hefyd

Crynodeb o'r drafodaeth ddeialog gyda chyflogwyr (PDF 91KB)

Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg a anfonwyd at Sefydliadau Addysg Uwch (PDF 137KB)

Nodyn o'r digwyddiad rhanddeiliaid ar 26 Medi 2018 (PDF 109KB)

Nodyn o'r ymweliadau ag ysgolion ar 4 Hydref 2018 (PDF 199KB)

 

Adroddiad

Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru (PDF 979KB)

Yn ystod y digwyddiad lansio ar gyfer yr adroddiad hwn, dangoswyd fideo yn crynhoi barn pobl ifanc a rhanddeiliaid.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 406KB) i adroddiad y Pwyllgor.

Ymateb Cymwysterau Cymru (PDF 143KB) i adroddiad y Pwyllgor.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Gorffennaf 2019.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/06/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau