P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Centre for Welsh Studies – Think Tank, ar ôl casglu 55 o lofnodion

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Cofrestr Statudol ar gyfer Lobïwyr yng Nghymru.

Mae'r ddeiseb hon yn dilyn camau a gymerwyd yn yr Alban ac Iwerddon tuag at sicrhau bod lobïo gwleidyddol yn fwy agored.

Mae lobïo yn weithgaredd dilys a gwerthfawr. Mae'n rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach. Gall y geiriau lobïo a lobïwr gael eu dehongli'n negyddol, gan awgrymu fod bargeinion yn cael eu taro y tu ôl i ddrysau caeedig. Y gwir amdani yw po fwyaf o leisiau sy'n ceisio llywio meddylfryd y Llywodraeth a'r Cynulliad yng Nghymru, y mwyaf y bydd gwleidyddion yn cael gwybod beth yw barn pobl wrth iddynt ddeddfu, datblygu polisïau newydd a chyflawni gwaith craffu. Am y rheswm hwnnw, ac ar sail yr egwyddor o fod yn agored ac yn hygyrch, sydd wrth wraidd y Cynulliad, dylid mynd ati'n weithredol i annog lobïo. Mae'n gadarnhaol pa mor agored, hygyrch a pharod i ymgysylltu yw'r Cynulliad a'r Llywodraeth eisoes. Ni ddylid cymryd unrhyw gamau a fyddai'n newid hynny neu'n achosi i bobl beidio â chysylltu â gwleidyddion ynglŷn ag unrhyw fater.

Document

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb yng ngoleuni bwriad y Pwyllgor Safonau i wneud rhagor o waith ar y mater hwn ac i nodi cynnig ar gyfer y Chweched Cynulliad, ynghyd â diffyg cyswllt diweddar â’r deisebwyr.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/07/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Dyffryn Clwyd
  • Gogledd Cymru

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2018