Y Bwrdd Gweithredol â'r Grŵp Arweinyddiaeth
Y Bwrdd Gweithredol â'r Grŵp Arweinyddiaeth
Y Bwrdd Gweithredol
Y Bwrdd Gweithredol yw'r corff penderfynu strategol ar gyfer pob mater
sydd o fewn yr awdurdod sydd wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr gan Gomisiwn
y Cynulliad, ac mae'n gyfrifol am gyflawni nodau a blaenoriaethau'r sefydliad
yn gyffredinol. Mae'r Bwrdd hefyd yn
gorff ymgynghorol i Gomisiwn y Cynulliad, er mwyn sicrhau ei fod yn cael y
cyngor gorau posibl wrth bennu strategaeth, nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn,
y Gyllideb, ac wrth wneud penderfyniadau.
Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau
bod adnoddau'r Comisiwn yn cael eu cynllunio i gwrdd â gofynion hysbys, yn cael
eu dyrannu yn unol â blaenoriaethau corfforaethol a bod adnoddau staffio yn
cael eu rheoli o fewn y terfynau ariannu a sefydliad y cytunwyd arnynt.
Grŵp Arweinyddiaeth
Y Grŵp Arweinyddiaeth yw'r
corff ymgynghorol i'r Bwrdd Gweithredol ac yn gyfrwng i gyflwyno cynlluniau
gweithredol, blaenoriaethau a'n trefniadau llywodraethu yn effeithiol. Bydd yn
gweithredu ar y cyd er budd corfforaethol y Comisiwn.
Fel arweinwyr y sefydliad,
bydd y Grŵp yn gyfrifol am gyfnewid a lledaenu gwybodaeth a bydd yn
gweithio'n adeiladol ar draws gwasanaethau i wella a chryfhau’r broses o
ddatblygu syniadau a chynigion a gaiff eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol
neu'r Comisiwn i sicrhau bod cyllidebau ac adnoddau'r Comisiwn yn cael eu
defnyddio'n effeithlon ac yn hyblyg i sicrhau bod gwasanaethau a blaenoriaethau
yn cael eu darparu ar draws y sefydliad.
Bydd gofyn i'r Grŵp Arweinyddiaeth weithio o fewn dirprwyaethau a
wneir gan y Bwrdd Gweithredol ac o fewn y fframwaith llywodraethu a sicrwydd.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2019