Craffu ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru
Ymgymerodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig (y Pwyllgor) â gwaith ar
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (y Fframwaith) drafft Llywodraeth Cymru.
Mae’r Fframwaith yn ddogfen gynllunio ofodol sy’n ofynnol
o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (y Ddeddf Gynllunio).
Mae’r Ddeddf Gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i
Weinidogion Cymru ddatblygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Mae’r Fframwaith
Drafft yn nodi fframwaith defnydd tir am gyfnod o ugain mlynedd, a chaiff ei
adolygu bob pum mlynedd o leiaf. Mae’r ddogfen yn bolisi allweddol sydd yn
gosod polisi gofodol cenedlaethol, yn cyfarwyddo Cynlluniau Datblygu Strategol
a Chynlluniau Datblygu Lleol, ac yn llywio proses Llywodraeth Cymru o wneud
penderfyniadau ar geisiadau cynllunio o bwys.
Ym mis
Awst 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Drafft at ddibenion
ymgynghoriad.
Gweithiodd
y Pwyllgor ar y Fframwaith Drafft yn gynnar yn y broses, gyda'r bwriad o
ddylanwadu ar ei gynnwys, a llywio ystyriaeth y Senedd o’r drafft yn y dyfodol.
Gosododd Llywodraeth Cymru ail iteriad y Fframwaith
Drafft gerbron y Senedd ar 21 Medi 2020 ynghyd â’r dogfennau a ganlyn:
·
Rhestr
o’r Newidiadau i ddrafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
·
Arfarniad
Cynaliadwyedd Integredig o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
·
Arfarniad
Cynaliadwyedd Integredig o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Crynodeb
Annhechnegol
·
Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol Cymru - Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
·
Drafft
y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Adroddiad yr Ymgynghoriad (llawn)
·
Drafft
y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Adroddiad Ymgynghori: Crynodeb
Mae copi o’r Fframwaith Drafft sy’n ymgorffori’r
newidiadau arfaethedig ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru.
Mae’r Ddeddf Gynllunio yn nodi’r darpariaethau
a ganlyn sy’n ymwneud â’r Fframwaith:
·
Yn ôl Adran 3(4), mae’n
ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw benderfyniad a gaiff ei wneud gan y
Senedd mewn Cyfarfod Llawn ac unrhyw argymhelliad a wneir gan un o bwyllgorau’r
Senedd yn ystod y cyfnod craffu o 60 diwrnod.
·
Wedi i’r cyfnod craffu o
60 diwrnod ddod i ben, caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi fersiwn derfynol, heb
ei diwygio, o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Fodd bynnag, os bydd
Gweinidogion Cymru yn penderfynu diwygio’r Fframwaith drafft, byddant yn gosod
drafft diwygiedig gerbron y Senedd ac yn ei gyhoeddi.
·
Os bydd y Senedd, neu
unrhyw un o’i phwyllgorau, yn cytuno ar unrhyw benderfyniad neu’n gwneud unrhyw
argymhelliad yn ystod y cyfnod craffu, rhaid i Weinidogion Cymru osod
datganiad, dim hwyrach na’r diwrnod y caiff y Fframwaith ei gyhoeddi, yn
esbonio sut y maent wedi ystyried pob penderfyniad neu argymhelliad.
Casglu tystiolaeth
I lywio ei waith ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Drafft cyntaf ystyriodd y Pwyllgor gyflwyniadau ysgrifenedig a bu’n gwrando ar
dystiolaeth lafar gan randdeiliaid yn ystod ei gyfarfodydd ar 24 Hydref 2019, 6 Tachwedd 2019 ac
14 Tachwedd 2019.
Gwahoddodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a chlywodd
dystiolaeth lafar gan randdeiliaid yn ystod cyfarfodydd ar 15 Hydref 2020 a
5 Tachwedd 2020
i lywio ei waith ar ail iteriad y Fframwaith Drafft.
Adroddiad
Cyntaf y Pwyllgor
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ar 13 Rhagfyr
2019 (PDF 1MB).
Ymatebodd
(PDF 350KB) Llywodraeth Cymru ar 29 Ionawr 2020 a rhoddodd ymateb
pellach (PDF 608KB) ar 21 Medi 2020.
Ail Adroddiad y Pwyllgor
Ystyriodd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i’r
Fframwaith Drafft a chyflwynodd
adroddiad i’r Senedd cyn diwedd y cyfnod 60 diwrnod.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ail iteriad y Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol drafft: Cymru’r Dyfodol Y
Cynllun Cenedlaethol 2040 (PDF 290KB) ar 23 Tachwedd 2020.
Ar 24 Chwefror 2021 ysgrifennodd
(PDF 332KB) y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd i'w hysbysu ei
bod wedi cyhoeddi
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 'Dyfodol Cymru – Cynllun
Cenedlaethol 2040' a gosododd Ddatganiad i’r
Senedd (PDF 961KB) a oedd yn cynnwys
ymateb i argymhellion y Pwyllgor.
Math o fusnes: Deddfwriaeth
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/05/2018
Dogfennau
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 24 Chwefror 2021
PDF 332 KB
- Datganiad i'r Senedd ar ôl craffu ar Cymru'r Dyfodol rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2020 - Chwefror 2021
PDF 961 KB
- Llythyr gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 2 Rhagfyr 2020
PDF 255 KB
- Adroddiad Y Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft: Cymru'r Dyfodol Y Cynllun Cenedlaethol - Tachwedd 2020
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - 18 Tachwedd 2020
PDF 289 KB
- Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft (ail iteriad) - cyflwyniadau ysgrifenedig Hydref 2020: NDF(v2) 01-26
- NDF (v2) 01 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 139 KB
- NDF (v2) 02 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 107 KB
- NDF (v2) 03 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 109 KB
- NDF (v2) 04 Savills ar ran Cancer Research UK a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) (Saesneg yn unig)
PDF 260 KB
- NDF (v2) 05 Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (Saesneg yn unig)
PDF 145 KB
- NDF (v2) 06 Coed Cadw (Saesneg yn unig)
PDF 183 KB
- NDF (v2) 07 Tri Awdurdod Parc Cenedlaethol
PDF 471 KB
- NDF (v2) 09 Llanarth Estates (Saesneg yn unig)
PDF 309 KB
- NDF (v2) 08 Cymdeithas Mynuddoedd Cambria (Saesneg yn unig)
PDF 276 KB
- NDF (v2) 10 Savills ar ran Walters Land Limited (Saesneg yn unig)
PDF 196 KB
- NDF (v2) 11 Renewable UK Cymru (RUKC)
PDF 222 KB
- NDF (v2) 12 Y Sefydliad Tai Siartredig (Saesneg yn unig)
PDF 213 KB
- NDF (v2) 13 Y Cerddwyr (Saesneg yn unig)
PDF 142 KB
- NDF (v2) 14 Savills (Saesneg yn unig)
PDF 237 KB
- NDF (v2) 15 RPS Consulting Services Ltd ar ran Barratt David Wilson Homes (Saesneg yn unig)
PDF 187 KB
- NDF (v2) 16 Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (Saesneg yn unig)
PDF 392 KB
- NDF (v2) 17 RWE Renewables UK Ltd (Saesneg yn unig)
PDF 317 KB
- NDF (v2) 18 Cyngor Sir Gâr (Saesneg yn unig)
PDF 195 KB
- NDF (v2) 19 Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (Saesneg yn unig)
PDF 294 KB
- NDF (v2) 20 RSPB Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 174 KB
- NDF (v2) 21 Ymddiriedolaeth John Muir
PDF 127 KB
- NDF (v2) 22 Savills ar ran St Modwen Developments Limited (Saesneg yn unig)
PDF 157 KB
- NDF (v2) 23 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 81 KB
- NDF (v2) 24 Ffrindiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Saesneg yn unig)
PDF 212 KB
- NDF (v2) 25 Cymdeithas Eryri (Saesneg yn unig)
PDF 231 KB
- NDF (v2) 26 Y Grid Cenedlaethol
PDF 226 KB
- NDF (v2) 27 Individual
PDF 315 KB
- NDF (v2) 28 Crompton Land and Development Ltd
PDF 143 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft – 21 Medi 2020
PDF 608 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd - 18 Medi 2020
PDF 187 KB
- Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd yn cynnwys llythyr gan Y Gweinidog Cyllid a Trefnydd - 5 Mawrth 2020
PDF 370 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor - 29 Ionawr 2020
PDF 350 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd - 21 Ionawr 2020
PDF 291 KB
- Adroddiad Y Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft - 13 Rhagfyr 2019
- Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft - cyflwyniadau ysgrifenedig Hydref 2019: NDF 01-13
- NDF 01 Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol
PDF 117 KB
- NDF 02 Dr Neil Harris
PDF 142 KB
- NDF 03 Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
PDF 377 KB
- NDF 04 Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru
PDF 339 KB
- NDF 05 Cyngor Sir Ceredigion
PDF 112 KB
- NDF 06 Y Sefydliad Tai Siartredig
PDF 199 KB
- NDF 07 Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
PDF 193 KB
- NDF 08 RSPB Cymru
PDF 223 KB
- NDF 09 Savills
PDF 158 KB
- NDF 11 Renewable UK Cymru
PDF 185 KB
- NDF 12 Coed Cadw
PDF 195 KB
- NDF 13 Ymddiriedolaethau Natur Cymru
PDF 331 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 7 Awst 2019
PDF 651 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 17 Gorffennaf 2019
PDF 66 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyfarfod rhwng Gweinidogion y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC) ar Dai a Chynllunio Gofodol - 18 Mawrth 2021
PDF 387 KB