Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru
Cytunodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
i gynnal ymchwiliad i Gyflwr Ffyrdd yng
Nghymru.
Crynodeb
Roedd yr ymchwiliad
yn canolbwyntio ar:
- Cyflwr y rhwydwaith o ffyrdd lleol, y
cefnffyrdd a’r traffyrdd, a’r dull o’u cynnal a’u cadw;
- Cyflawni prosiectau gwella ar y
rhwydwaith o ffyrdd lleol, y cefnffyrdd a’r traffyrdd; ac
- I ba raddau y mae’r dulliau o gynnal a
chadw a gwella priffyrdd yn gynaliadwy.
Cylch gorchwyl
- Cyflwr presennol y ffyrdd yng Nghymru,
ac a yw’r dull o ariannu a chyflawni rhaglenni cynnal a chadw ar gyfer y
rhwydwaith o ffyrdd lleol, y cefnffyrdd a’r traffyrdd yng Nghymru yn
effeithiol, yn cael eu rheoli i amharu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr
ffyrdd, ac yn darparu gwerth am arian;
- A yw’r prosiectau gwella mawr ar y
rhwydwaith o ffyrdd lleol, y cefnffyrdd a’r traffyrdd yn cael eu
blaenoriaethu, eu hariannu, eu cynllunio a’u cyflawni’n effeithiol, ac yn
rhoi gwerth am arian. Mae materion perthnasol yn cynnwys y dull gweithredu
o gynnwys contractwyr yn gynnar, a’r cyfleoedd a gynigir gan Fodel
Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru; ac
- A yw Cymru yn gynaliadwy o ran cynnal
a chadw a gwella ei rhwydwaith ffyrdd yng nghyd-destun deddfwriaeth
allweddol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig, penderfynodd y Pwyllgor
gynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth
hefyd.
Gofynnodd Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau i’r cyhoedd dynnu llun ar gamera sy'n dangos Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru.
Roedd y gystadleuaeth
yn agored i gyflwyno lluniau rhwng 7 Mehefin a 13 Gorffennaf 2018. Aelodau’r
Pwyllgor a fu’n beirniadu pob ymgais, yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19
Gorffennaf 2018.
Tynnwyd y llun
buddugol gan Anthony Maybury o Wrecsam, ac mae’n dangos lori yn mynd heibio i
dwll mawr ar ffordd yr A525 ger Bronington.
Bydd yr holl luniau’n
rhan o arddangosfa gyhoeddus yn y Senedd yng Nghaerdydd rhwng 3 a 14 Medi 2018.
Hefyd bydd y llun buddugol ar glawr adroddiad y Pwyllgor. Bydd yr enillydd a’r
cystadleuwyr eraill yn cael argraffiad o’u llun, a gwahoddir yr enillydd i
ddigwyddiad lansio’r adroddiad.
Yr
Ymchwiliad – I beth yn union?
Roedd Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar gyflwr presennol
ffyrdd yng Nghymru ac yn holi a yw'r modelau cyllido a chynnal a chadw sydd ar
waith yn darparu gwerth am arian, ac
a oes digon yn cael ei wneud i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl adroddiadau
diweddar yn y cyfryngau, byddai'n cymryd 24 mlynedd i fynd i'r afael â'r gwaith
atgyweirio sydd wedi cronni ledled y wlad.
Edrychodd y Pwyllgor
hefyd ar hyfywedd prosiectau mawr o bwys a'u gwerth am arian fel ffordd osgoi'r
M4 o amgylch Casnewydd, rhaglen ddeuoli'r A465 rhwng Gilwern a Brynmawr, ffordd
osgoi Caernarfon i Bontnewydd, a ffordd osgoi'r Drenewydd. Mae costau'r ffordd
osgoi eisoes yn uwch nag £1 biliwn, ac yn ôl cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth
Cymru disgwylir i'r gwaith ar yr A465 hefyd gostio mwy na'r gyllideb.
Dywedodd Russell
George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: “Mae tyllau ar y
ffordd a ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael yn peri rhwystredigaeth i ni gyd. Yn
ogystal â gwneud siwrnai'n anghyfforddus gallant wneud niwed difrifol i economi
a chymdeithas Cymru”.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/03/2018
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor
PDF 1 MB
- Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 228 KB
- Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru: Cystadleuaeth Ffotograffiaeth - Telerau ac amodau (PDF 212KB)
PDF 212 KB
- Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru: Cystadleuaeth ffotograffiaeth - Hysbysiad prosesu teg (PDF 174KB)
PDF 173 KB
- Adroddiad y Pwyllgor: Cyflwr ffyrdd yng Nghymru - Hydref 2018
PDF 1 MB
Ymgynghoriadau
- Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)