P-05-811 Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru
P-05-811 Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru
P-05-811 Rhoi'r
gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Paul Fear, ar ôl casglu 66 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio a hyrwyddo ardystiad gweithwyr ar
gontractau Llywodraeth Cymru.
Mae ardystiad gweithiwr yn gynllun trwyddedu galwedigaethol wedi'i
breifateiddio.
1) Mae'n annemocrataidd ac yn amharu ar egwyddorion y gyfraith gyffredin
(hawliau tad-cu).
2) Mae'n rhoi cost hyfforddi a chymwysterau ar weithwyr, yn enwedig gweithwyr
hunangyflogedig a gweithwyr asiantaeth sydd heb fawr o siawns o gael grantiau
na chyllid.
3) Mae'n lleihau'r siawns o symud i fyny ar gyfer y tlotaf mewn cymdeithas.
4) Mae'n atal symudedd gweithwyr, ar adeg pan mae angen gweithlu hyblyg arnom.
5) Mae'n caniatáu i fuddiannau corfforaethol gael rheolaeth dros weithlu cyfan
ein sectorau economaidd, gan gynyddu costau busnesau bach ac isgontractwyr.
6) Mae'n hyrwyddo ceisio rhent, sy'n golygu bod defnyddwyr yn talu mwy am
gynhyrchion a gwasanaethau.
7) Mae'n lleihau cynhyrchedd.
8) Mae'n doreithiog a bydd yn ymledu i bob sector economaidd.
9) Gall greu gwrthdaro o ran buddiannau.
10) Nid oes tystiolaeth bod ardystio gweithwyr yn gwella ansawdd na safon
crefftwaith.
11) Mae profiad, sgiliau a gwybodaeth yn lleihau risgiau iechyd a diogelwch, a
gellir cyflawni'r rhain a'u profi heb gymwysterau.
12) Mae'n cynyddu cost prosiectau cyhoeddus.
I3) Os oes angen gofynion cymhwyster ar ddiwydiant, yna dylai ein llywodraeth a
etholwyd yn ddemocrataidd greu deddfwriaeth.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod
y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/05/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Dwyrain
Casnewydd
- Dwyrain
De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2018