Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu i ddisgyblion

Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu i ddisgyblion

Inquiry5

 

Gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddarn penodol o waith i ystyried y ddarpariaeth o werslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion sy'n cymryd cymwysterau cyffredinol (TGAU a Safon Uwch) yng Nghymru. Roedd y Pwyllgor yn pryderu'n benodol am argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg a'r adnoddau sydd ar gael mewn pynciau penodol.

 

Rhagfyr 2017

Holodd y Pwyllgor Cymwysterau Cymru yn ystod y sesiwn graffu ar ei Adroddiad Blynyddol, ar 6 Rhagfyr 2017.

 

Ionawr 2018

Ysgrifennodd (PDF 94KB) y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet ar 31 Ionawr 2018 (PDF 203KB).

 

Chwefror/Mawrth 2018

Ar ôl ystyried ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ysgrifennodd y Pwyllgor at CBAC a Chymwysterau Cymru ar 22 Chwefror 2018 (PDF 144KB). Derbyniwyd ymatebion gan CBAC (PDF 151KB) a Chymwysterau Cymru (PDF 203KB) ar 13 Mawrth 2018.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal un sesiwn graffu gyda CBAC a Chymwysterau Cymru ac ymgynghorodd â rhanddeiliaid allweddol (PDF 150KB) i ofyn am eu barn ar y mater.

 

Ebrill 2018

Derbyniwyd ymatebion i'r ymgynghoriad a dargedwyd gan Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr; Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg; Consortia Rhanbarthol - Ymateb ar y Cyd; Estyn; NASUWT; NAHT Cymru; UCAC.

 

Ymgysylltodd tîm Allgymorth y Cynulliad ag ysgolion ledled Cymru, ar ran y Pwyllgor. Mae cyfweliadau fideo gyda disgyblion ac athrawon, sy’n rhoi eu barn am y ddarpariaeth gwerslyfrau ac adnoddau dysgu, wedi’u recordio fel tystiolaeth i gefnogi’r ymchwiliad.

 

Ysgrifennodd CBAC (PDF 178KB) a Chymwysterau Cymru (PDF 271KB) at y Pwyllgor ar 20 Ebrill 2018 cyn y sesiwn graffu untro.

 

2 Mai 2018

Ar 2 Mai, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda CBAC a Chymwysterau Cymru. Gwelodd y Pwyllgor hefyd y cyfweliadau fideo, a darparwyd briff ar y cyfweliadau a gynhaliwyd.

 

Adroddiad

Adroddiad ar yr ymchwiliad i Ddarparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion. (PDF 906KB)

 

Mae fideo byr ar gael sy’n crynhoi adroddiad y Pwyllgor.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 665KB)

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/03/2018

Dogfennau