Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru

Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith.

 

Cylch gorchwyl:

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar ganfyddiadau adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar wahaniaethu mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ei hamcan cydraddoldeb strategol, sef nodi a lleihau’r achosion o anghydraddoldeb o ran cyflogaeth, sgiliau a thâl sy’n ymwneud â rhyw, yn enwedig mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
  • Y graddau y mae Cynllun Gweithredu Economaidd a rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â materion a wynebir gan famau;
  • A yw’r cynnig gofal plant newydd yn cyd-fynd â chymorth wedi’i dargedu i famau ddechrau gweithio neu ddychwelyd i’r gwaith, a
  • Graddau’r gwahaniaethu mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (ac amrywiannau rhwng gwahanol grwpiau o fenywod), ac enghreifftiau o arfer da.

 

 

Tystiolaeth

Er mwyn llywio gwaith y Pwyllgor, cynhaliodd gyfres o sesiynau tystiolaeth lafar ac ymgynghoriad cyhoeddus. Gallwch weld manylion y sesiynau tystiolaeth lafar drwy glicio’r ‘tab cyfarfod’ uchod.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Wrth eich gwaith - rhianta a chyflogaeth yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2018.

 

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Nid yw atal cyfran helaeth o’r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a’u profiad at y gweithlu yn deg, ac nid yw’n gwneud synnwyr economaidd. Yn sgil newidiadau technolegol, cymdeithasol ac economaidd, dyma’r amser i foderneiddio gweithleoedd fel eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol i bawb, nid rhieni yn unig.”

 

Mae adroddiad 'Spark' byrrach wedi'i gyhoeddi hefyd a gallwch ei ddarllen yma.

 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad ym mis Medi 2018. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Medi 2018.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau