Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol

Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol

Ar ôl i’r trafodaethau Brexit rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU symud yn eu blaenau i drafodaethau am y cyfnod pontio a’r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol, lansiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymchwiliad i’r hyn yr oedd ar Gymru ei hangen o'r trafodaethau hyn.

Y cefndir

Bu cam cyntaf gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, rhwng Gorffennaf 2016 a Ionawr 2017, yn canolbwyntio ar nodi'r goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn ymchwiliadau dilynol i'r polisi rhanbarthol a phorthladdoedd Cymru ymhelaethwyd ar rai o'r themâu mwy ymarferol a godwyd yn yr ymchwiliad cyntaf hwn ac fer wnaeth gwaith y Pwyllgor ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) wedi datblygu llawer o'r materion cyfansoddiadol a nodwyd o fewn y DU.

Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru Bapur Gwyn ar y cyd, Diogelu Dyfodol Cymru (PDF, 2.78MB) Roedd y papur hwn yn amlinellu eu safbwynt o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth Llywodraeth y DU, sawl tro, fynegi safbwynt ar y berthynas yr hoffai fod wedi gweld y DU yn ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl gadael.

Yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 14 Rhagfyr 2017, cytunodd arweinwyr yr UE27 bod cynnydd digonol wedi'i gyflawni yng ngham cyntaf trafodaethau Brexit.

Ar y sail hon, maent wedi mabwysiadu canllawiau drafft i symud i ail gam y trafodaethau lle y bydden nhw hefyd yn dechrau trafodaethau am y cyfnod pontio a'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol.

Yng ngoleuni'r datblygiadau hyn, cytunodd y Pwyllgor i lansio ac ymchwilio i berthynas Cymru gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. O ran ei ddull gweithredu, cytunodd y Pwyllgor i atgyfnerthu'r gwaith yr oedd wedi’i wneud hyd yn hyn ac ychwanegu ato gyda safbwyntiau presennol y rhanddeiliaid.

Diben hyn oedd galluogi craffu'n effeithiol ar fewnbwn Llywodraeth Cymru i'r trafodaethau ac i sicrhau bod y materion sy'n bwysicaf i Gymru yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y trafodaethau.

Cylch gorchwyl

Asesu:

·         sefyllfa Llywodraeth Cymru, fel y'i mynegir yn ei Phapur Gwyn Sicrhau Dyfodol Cymru (PDF, 2.78MB) (Ionawr 2017), gan gymharu'r sefyllfa honno â gwaith y Pwyllgor hyd yn hyn;

 

·         sefyllfa Llywodraeth y DU;

 

·         y cynnydd o ran trafodaethau Erthygl 50;

 

·         a thystiolaeth rhanddeiliaid.

Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys ystyried pa berthynas ffurfiol y gallai Cymru fod wedi ei chael gyda’r Undeb Ewropeaidd ar ôl gadael y DU.

Amcanion

  • Nodi'r agweddau mwyaf hanfodol ar berthynas y DU yn y dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd o safbwynt Cymru;
  • sicrhau bod y materion sy'n bwysicaf i Gymru yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y trafodaethau; a
  • nodi cyfleoedd i barhau i ymgysylltu â'r Undeb Ewropeaidd a'i sefydliadau ar ôl Brexit.

 

Casglu tystiolaeth

 

Ar 29 Ionawr 2018, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad (PDF, 633KB) i ddwyn ynghyd randdeiliaid o amryw sectorau i drafod blaenoriaethau perthynas Cymru ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Ar 5 Mawrth 2018, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar berthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

 

Adroddiad – rhan un

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (PDF, 9MB) ar 27 Mawrth 2018.

 

Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

"Nid rhestr siopa o beth ddylai fod yn y cytundeb hwnnw yn y dyfodol a beth na ddylai fod ynddo yw ein hadroddiad. Mae'n amlygu’r pryderon sydd gennym ni, a llawer o'n rhanddeiliaid, ynghylch y goblygiadau i Gymru pe na bai’r materion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y berthynas honno â’r UE ar ôl ymadael.

 

Rydym yn disgwyl i Weinidogion y DU ystyried y goblygiadau ar gyfer pob aelod cyfansoddol o’r DU wrth negodi ar y berthynas â’r UE ar ôl ymadael, gan gynnwys y materion a godir yn yr adroddiad hwn, i sicrhau ein bod yn sicrhau Brexit sy'n gweithio i bawb."

 

Ymateb i’r adroddiad

 

Ar 16 Mai 2018, gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb (PDF, 200KB) i ran un o’n hadroddiad: Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (PDF, 9MB).Trafodwyd yr adroddiad a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 23 Mai. Gallwch wylio’r drafodaeth ar Senedd.TV.

 

Dechreuodd ail ran yr ymchwiliad, Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol, ym mis Mehefin 2018.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/12/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau