Ardaloedd Menter
Ardaloedd Menter
Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
yn parhau i graffu ar y maes polisi hwn, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan y
Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd
Cynulliad.
Ystyriodd ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid yn
2013 pa gynnydd a wnaed ym mhob un o'r Parthau Menter, gan ganolbwyntio'n
benodol ar y mewnbwn ariannol a'r allbynnau disgwyliedig o'r parthau.
Edrychodd y
Pwyllgor ar y materion canlynol:
- Asesu’r gwaith o weithredu’r Ardaloedd Menter
hyd yma, gan gynnwys:
- maint y cynnydd yn erbyn amcanion datganedig
Llywodraeth Cymru ar gyfer y polisi Ardaloedd Menter (a sut caiff y
cynnydd hwn ei fonitro a'i werthuso);
- cyflawniadau hyd yma ar gyfer pob ardal, ochr
yn ochr â'r adnoddau a ddefnyddiwyd yn y broses;
- y defnydd a wnaed o'r ystod o gymhellion a
gynigir ym mhob ardal;
- y sail tystiolaeth ar gyfer polisi cyfredol
Ardaloedd Menter;
- perfformiad yr Ardaloedd Menter yn Lloegr.
- Ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer
yr Ardaloedd Menter yn y dyfodol, gan gynnwys;
- y targedau a’r amcanion penodol ar gyfer pob
Ardal, a'r adnoddau sydd eu hangen i’w cyflawni;
- rôl y Byrddau Ardaloedd Menter;
- sut mae’n cyd-fynd â dull rhanbarthol
Llywodraeth Cymru, y Cynllun Gweithredu Economaidd a mentrau eraill yn
seiliedig ar lefydd, fel Tasglu’r Cymoedd, dinas-ranbarthau a bargeinion
dinesig.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2017
Dogfennau