Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

Roedd hwn yn cael ei ddefnyddio lle y byddai Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Roedd y Bil Masnach [Saesneg yn unig] yn rhan o’r fframwaith a oedd yn cael ei sefydlu er mwyn galluogi’r DU i ymrwymo i gytundebau masnach â Thrydydd Gwledydd a oedd â chytundebau o’r fath â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Cafodd y Bil ei osod gerbron Tŷr Cyffredin gan Lywodraeth y DU ar 7 Tachwedd 2017 a chwblhaodd y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷr Cyffredin ar 1 Chwefror 2018.

 

Ar 7 Rhagfyr 2017, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â’r Bil Masnach gerbron y Cynulliad. Cafodd gwelliannau a awgrymir i’r Bil eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 18 Ionawr 2018.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad, sef Bil Masnach: Adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig ddydd Gwener 9 Mawrth 2018.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach ddydd Gwener 16 Mawrth.

 

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol

 

Gosodd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Rhif 2) ar 14 Chwefror 2019.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyflwyno adroddiad ar y Bil erbyn 11 Mawrth 2019.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad atodol: Y Bil masnach: Ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig ddydd Gwener 8 Mawrth 2019.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Masnach ddydd Llun 11 Mawrth.

 

Pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid rhoi cydsyniad i'r Bil Masnach ar 12 Mawrth 2019

 

Yn dilyn gwelliant i’r Bil, trafodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol arall yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mai 2019.

 

O ganlyniad i hyn, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol o blaid y Bil yn cael ei drafod ymhellach gan Senedd y DU.

 

Methodd y Bil â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y diddymiad. Roedd hyn yn golygu na symudodd y Bil ymlaen ymhellach.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2017

Dogfennau