Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Ar 12 Rhagfyr 2017, cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'w drafod. Wrth gyfeirio'r Memorandwm, pennodd y Pwyllgor Busnes 22 Chwefror 2018 fel y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ei adroddiad (PDF, 164KB) ar y Memorandwm ar 18 Ionawr 2018.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad (PDF, 121KB) ar y Memorandwm ar 12 Chwefror 2018.

 

Pleidleisiodd y Senedd i roi cydsyniad i'r Bil ar 27 Chwefror 2018.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2017

Angen Penderfyniad: 19 Chwe 2018 Yn ôl Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Angen Penderfyniad: 19 Chwe 2018 Yn ôl Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Dogfennau