Adfywio canol trefi: 5 mlynedd yn ddiweddarach

Adfywio canol trefi: 5 mlynedd yn ddiweddarach

Roedd yr ymchwiliad cyntaf a gynhaliwyd gan Bwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn ystyried y modd y defnyddiodd Llywodraeth Cymru y dulliau oedd ar gael i'w chynorthwyo i adfywio canol trefi yng Nghymru.

 

Ar ôl casglu tystiolaeth yn hydref 2011, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Ionawr 2012, gan amlygu'r prif heriau sy'n wynebu canol trefi Cymru, a gwneud 21 o argymhellion er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad dilynol byr ar adfywio canol trefi. Cyn y cyfarfod ffurfiol gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio, bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn anffurfiol gyda rhanddeiliaid i glywed eu barn ar y prif faterion sy'n wynebu canol trefi yn y dyfodol.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2017

Dogfennau