P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Linda Evelyn Joyce Jones ar ôl 1,517 o lofnodion ar-lein a 1,737 o lofnodion papur. Casglodd deiseb gysylltiedig 3,144 o lofnodion ar wefan amgen.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae Lles Anifeiliaid (ac eithrio hela ac arbrofi ar anifeiliaid) yn fater datganoledig yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2015, dywedodd Rebecca Evans AC (y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd), "Mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau".

 

O dan ei chyfarwyddyd hi,  comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad annibynnol a chafwyd tystiolaeth gan dros 600 o arbenigwyr yn y maes. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2016, ac roedd y casgliadau’n glir.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r dystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw syrcasau teithiol sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt yn bodloni’r gofynion lles a nodir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Mae'r adroddiad hefyd yn datgan "Nid yw bywyd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sŵau teithiol yn “fywyd da” nac yn “fywyd sy’n werth ei fyw”.

 

Ym mis Rhagfyr 2016, dywedodd Lesley Griffiths AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig) fod Llywodraeth Cymru yn  gweithio tuag at sefydlu system drwyddedu, debyg i honno sy’n cael ei rhedeg gan DEFRA yn Lloegr ar hyn o bryd. Dylid nodi bod Llywodraeth y DU wedi rhoi’r system hon ar waith yn 2011 fel mesur dros dro hyd nes y gellid gwaharddiad yr arfer.

Mae’r dogfennau trwyddedu sydd ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn dangos yn glir fod y system drwyddedu hon yn methu yn ei hymdrech i ddiogelu anifeiliaid. Mae'r ddwy syrcas anifeiliaid sydd wedi’u trwyddedu o dan DEFRA ar hyn o bryd wedi torri amodau eu trwyddedau droeon, ac mae eu trwyddedau wedi’u hatal ar ryw adeg neu'i gilydd.

 

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan RSPCA Cymru, roedd 74% o bobl Cymru yn awyddus i’r arfer hwn gael ei wahardd. Cyflwynodd y corff hwn hefyd ddeiseb i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru yn 2015.

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/01/2018.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2017