Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â nhw - Y Bumed Senedd
O dan rai amgylchiadau, bydd angen cydsyniad y Senedd ar
rai offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Er enghraifft, rhai
offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol
2006 a Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
O dan Reol Sefydlog 30A, mae’n rhaid i aelod o’r
llywodraeth osod memorandwm (Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol) mewn
perthynas ag unrhyw offeryn statudol o’r fath y bydd Gweinidogion y DU yn ei
osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na thri diwrnod fel rheol ar ôl iddo
gael ei osod gerbron Senedd y DU. Ar ôl i femorandwm cydsyniad offeryn statudol
gael ei osod, caiff unrhyw aelod gyflwyno cynnig sy’n gofyn i’r Senedd gytuno
i’r darpariaethau a amlygir ganddo.
Lle mae memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn ymwneud
â chynigion i newid y gyfraith yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, bydd yr offeryn
statudol sy’n destun memorandwm cydsyniad offeryn statudol gynnwys y term
“(Ymadael â’r UE)” yn y teitl.
Mae unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â Memorandwm Cydsyniad
Offeryn Statudol ar gael o dan y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol penodol
a restrir isod.
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/11/2017
Dogfennau
- Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Adroddiad cynnydd - Chwefror 2019
- Craffu ar y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Canllaw - Ionawr 2019
- SICM(5)39 - Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Addysg, Mabwysiadu a Phlant) (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2021
- SICM(5)38 - Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020
- SICM(5)37 - Rheoliadau Gwastraff a Thrwyddedu Amgylcheddol etc. (Swyddogaethau Deddfwriaethol a Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
- SICM(5)36 - Rheoliadau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2020
- SICM(5)35 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2020
- SICM(5)34 - Rheoliadau Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 2020
- SICM(5)33 - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 sy’n cynnwys diwygiadau i adran 155(2) a (3) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- SICM(5)32 - Rheoliadau Ansawdd a Diogelwch Organau y Bwriedir eu Trawsblannu (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
- SICM(5)31 - Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020
- SICM(5)30 - Rheoliadau Gofal Iechyd Cilyddol a Thrawsffiniol (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020
- SICM(5)29 - Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020
- SICM(5)28 - Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020
- SICM(5)27 - Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019
- SICM(5)26 - Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (Diwygio) 2019
- SICM(5)25 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio ac ati) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)24 - Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Rhywogaethau Goresgynnol Estron, Hawliau Bridwyr Planhigion a Hadau (Diwygio ac ati) Rheoliadau (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)23 - Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Mabwysiadu a Phlant) (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)22 - Rheoliadau Gorfodi'r Gyfraith a Diogelwch (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019
- SICM(5)21 - Rheoliadau Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Buddion mewn Nwyddau neu Wasanaethau etc.) (Diwygio etc.) (Ymadael â'r DU) 2019
- SICM(5)20 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Iechyd Trawsffiniol a Diwygiadau Amrywiol etc.) (Ymadael â'r UE) 2019
- SICM(5)19 - Rheoliadau Ystadegau'r DU (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)18 - Rheoliadau Gwrteithiau a Deunydd Amoniwm Nitrad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)17 - Rheoliadau Gwastraff (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019
- SICM(5)16 - Rheoliadau Milfeddygon a Lles Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 ("Rheoliadau 2019")
- SICM(5)15 - Rheoliadau Pedolwyr (Cofrestru) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)14 - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 - diwygiadau i Adran 155 (2) a (3) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- SICM(5)13 - Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
- SICM(5)12 - Rheoliadau'r Amgylchedd (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018
- SICM(5)11 - Rheoliadau Pysgodfeydd (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)10 - Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019
- SICM(5)9 - Rheoliadau Llongau Masnach a Thrafnidiaeth Arall (Diogelu'r Amgylchedd) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
- SICM(5)8 - Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
- SICM(5)7 - Rheoliadau Ansawdd a Diogelwch Organau y Bwriedir eu Trawsblannu (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)6 - Rheoliadau Meinweoedd Dynol (Ansawdd a Diogelwch at Ddefnydd mewn Bodau Dynol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- SICM(5)5 - Rheoliadau Ymchwiliadau a Chrwneriaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
- SICM(5)4 - Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Amrywiol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
- SICM(5)3 - Rheoliadau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) 2018
- SICM(5)2 - Rheoliadau Rheoli Mercwri (Gorfodi) 2017
- SICM(5)1 - Rheoliadau Asesiad O’r Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol Sy’n Gysyllteiedig  Harbyrau, Priffydd,  Trafnidiaeth) 2017