Adolygiad o’r Cod Ymddygiad

Adolygiad o’r Cod Ymddygiad

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cyhoeddi ei God Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau'r Senedd. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar y cod ac adroddiad ar yr adolygiad o'r cod. Caiff y cod drafft hwn ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021:

 

·         Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau o'r Senedd

·         Canllawiau ar y Cod Ymddygiad

·         Adroddiad ar adolygiad y Pwyllgor o'r Cod Ymddygiad

 

 

Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cyflawni adolygiad o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad ac, ynghyd â’r gwaith hwn, gweithiodd gyda Chomisiwn y Cynulliad i baratoi Polisi Urddas a Pharch, a gymeradwywyd yn y Cyfarfod Llawn yn mis Mai 2018. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Medi 2018 a thrafododd ymatebion gan Gomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2018. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Tachwedd 2018.

 

Mae’r Pwyllgor wrthi’n cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r Cod Ymddygiad Aelodau'r Cynulliad cyfredol.

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau