Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Roedd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) [Saesneg yn unig] yn fil y DU a gynlluniwyd i ddiddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 [Saesneg yn unig], i newid cyfreithiau presennol yr UE yn gyfreithiau domestig y DU ac i roi pwerau i weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Ar 12 Medi 2017, gosodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â’r Bil. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes at yr Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i’w ystyried ar 19 Medi 2017.

 

Cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymgynghori ar y cyd ar y Bil cyn llunio adroddiadau ar wahân:

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad interim ar Fil yr UE (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 15 Rhagfyr 2017.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar Fil yr UE (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 18 Rhagfyr 2017.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol

 

Ar 27 Ebrill 2018, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm rhif 2) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Rhif 2 Llywodraeth Cymru ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – 14 Mai 2018.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - Y cynnydd o ran cyflawni ein chwe amcan -14 Mai 2018.

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i’r Bil yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil yr UE (Ymadael).

 

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017

Dogfennau