P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes
P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan #CatsMatter Campaign, ar ôl
casglu 910 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno polisi er mwyn sicrhau
sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes.
Mae milfeddygon a llochesi yn
sganio anifeiliaid anwes y deuir o hyd iddynt, ond nid oes unrhyw ofyniad ar
gynghorau i wneud hynny. Gall y system ficrosglodion fod yn gwbl effeithiol dim
ond os yw anifeiliaid sydd â microsglodion yn cael eu sganio. Mae'r drefn hon
yn hanfodol o safbwynt perchnogion sy'n gorfod dioddef yr artaith o chwilio am
anifail anwes sydd wedi mynd ar goll am wythnosau neu fisoedd, a hynny heb
wybod beth sydd wedi digwydd iddo.
Ar hyn o bryd, nid oes polisi
ar waith i sicrhau bod cynghorau yn sganio'r cathod a'r cŵn y mae'r timau
sy'n glanhau'r strydoedd ar ran y cynghorau yn dod o hyd iddynt. Os yw anifail
anwes yn mynd ar goll, gall hyn fod yn brofiad arteithiol i'w berchennog.
Weithiau, pan fydd cath yn mynd ar goll, ni fydd ei berchennog byth yn cael
gwybod a yw wedi cael ei lladd mewn damwain ffordd, er enghraifft. Nid oes unrhyw
derfyn ar y mater i berchennog yr anifail, a gall y teimlad o golled barhau'n
ddi-ben-draw.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Ar hyn o bryd, dyma'r cynghorau
yng Nghymru nad ydynt yn sganio anifeiliaid anwes: Gwynedd, Ynys Môn, Caerdydd,
Casnewydd, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Ar hyn o bryd, mae'r
cynghorau sy'n weddill yn sganio anifeiliaid.
Fodd bynnag, mae'r cynghorau
hyn yn cyfaddef eu bod ond yn sganio anifail pan fyddant yn penderfynu ei fod mewn
cyflwr priodol i wneud hynny. Mae'r drefn hon ond yn lleddfu galar perchnogion
yn rhannol; bydd nifer o berchnogion yn parhau i fod yn y tywyllwch. Mae
mwyafrif yr anifeiliaid sy'n cael eu taro ar y ffyrdd yn dioddef anafiadau
difrifol. Ni ddylid defnyddio anaf o'r fath fel esgus i beidio â bodloni'r
ddyletswydd foesol i roi gwybod i'r perchennog. Dylid sganio pob anifail anwes,
waeth beth yw ei gyflwr, a rhoi gwybod i'r perchennog. Rydym y cydnabod y gall
glanhawyr stryd deimlo gofid neu drallod wrth sganio anifeiliaid sydd mewn
cyflwr drwg, ond y ffaith yw y byddant yn gorfod ymdrin â'r anifeiliaid hyn
waeth beth yw ein polisi arfaethedig. Maent yn ymdrin ag achosion o'r fath yn
rheolaidd ar hyn o bryd. Rydym yn gwerthfawrogi natur y gofid hwn, ond ni fydd
y sefyllfa sy'n bodoli ar hyn o bryd yn gwaethygu o ganlyniad i'r polisi
arfaethedig, ac ni fyddai'r gofid hwn yn cyfateb i ofid perchnogion sy'n
adnabod ac yn caru'r anifeiliaid hyn ar lefel bersonol ac y mae ganddynt hawl
foesol i wybod beth sydd wedi digwydd iddynt.
Anifeiliaid anwes
Statws
Mae'r ddeiseb hon yn cael
ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau
ar hyn o bryd.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/10/2017.
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017