P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Vanessa L Dye, ar ôl casglu
225 o lofnodion ar-lein a 234 ar bapur – cyfanswm o 459 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- comisiynu astudiaeth ymchwil i ganfod cyflwr gwelyau'r
cyllyll môr a'u hyfywedd fel adnodd naturiol hirdymor, a rhoi moratoriwm
ar waith ar gyfer pysgota cyllyll môr hyd nes y gall yr ymchwil adrodd ar
ei ganfyddiadau;
- cadarnhau tymor 'caeëdig' ar gyfer cynaeafu
cyllyll môr sy'n cyd-fynd â'r tymor silio h.y. mis Mai i fis Medi;
- llunio rheoliadau yn ogystal â'r maint glanio
lleiaf o 10cm i gynnwys cwotâu penodol y mae unigolion yn cael eu casglu;
a
- chyflwyno deddfwriaeth a rheoliadau i
amddiffyn y cyllyll môr ar draeth Llanfairfechan.
"Mae'r cynaeafu ar raddfa fawr o gyllyll
môr ar draeth Llanfairfechan wedi bod yn destun pryder i lawer o drigolion a
chadwraethwyr ers nifer o flynyddoedd." (Cyf: llythyr at Lesley Griffiths
AC, Ysgrifennydd y Cabinet gan Janet Finch Saunders AC 28 Gorffennaf 2017.)
Ar hyn o bryd yr unig reolaeth reoliadol ar
gyllyll môr yw bod yn rhaid iddynt fod â maint glanio lleiaf cyfreithiol o
10cm, ac mae gwiriadau sy'n ymwneud â rheoli'r hyn sy'n dod yn rhan o'r gadwyn
fwyd. Mae llawer o drigolion yn pryderu am y diffyg ymddangosiadol o
weithdrefnau a/neu reoliadau sy'n llywodraethu'r broses o gasglu cyllyll môr yn
enwedig o ran dynodi tymor 'caeëdig' yn ystod silio, y cwotâu a ganiateir, a'r
angen am gynnal gwaith ymchwil ar y cyllyll môr i ganfod yr effaith ar yr
ecosystem a'r amgylchedd lleol.
Ers 2013 nodwyd gan nifer o ffynonellau fod
cyllyll môr yn cael eu cynaeafu mewn niferoedd mawr o draeth Llanfairfechan.
Mae tystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn wedi cael ei dogfennu ar sawl achlysur
yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae cais diweddar ar Hysbysfwrdd Llanfairfechan ar
gyfer unrhyw luniau neu fideos o'r rheini sy'n casglu cyllyll môr yn dangos yn
glir bod nifer fawr o bobl yn ymwneud â'r gweithgarwch hwn. Mae'r broses o
gasglu'r cyllyll môr fel arfer yn digwydd ar ôl llanw uchel.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Dyma rywfaint o gefndir hanesyddol am y mater
hwn. Yn 2013 amlygwyd y cynaeafu gan bapur newydd Weekly News gan Tom Davidson
pan nodwyd fod 'criw o dros 100 o bobl yn cynaeafu llawer iawn o gyllyll
môr...' Roedd pryderon hefyd fod gweithwyr anghyfreithlon yn cael eu
hecsbloetio a bod y cyllyll môr yn cael eu pysgota at ddibenion masnachol. Ar y
pryd, dywedodd un o'r trigolion ei fod 'wedi gweld golygfeydd tebyg yn ymwneud
â nifer cynyddol o gasglwyr yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae'r
trigolion yn flin oherwydd y nifer fawr o gynaeafwyr gydag ofnau y gallai'r
cynefin lleol gael ei ddifrodi yn anadferadwy, gyda channoedd o gyllyll môr yn
cael eu casglu oddi ar y traeth yn rheolaidd.'
Er bod yr ofnau o ran bod y casglwyr yn cael eu defnyddio fel rhan o
gaethwasiaeth fodern a'r pysgod cregyn yn dod yn rhan o'r gadwyn fwyd wedi cael
eu tawelu gan ymdrechion parhaus yr heddlu a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, mae
canlyniadau amgylcheddol y broses gyson a systematig o gasglu cyllyll môr yn
parhau i fod yn broblem fawr, a all effeithio ar fywyd adar môr ac eraill yn yr
ardal, ynghyd ag achosi newidiadau posibl yn y dwysedd o dywod ar y traeth. Mae
rhai pryderon ynglŷn â'r tywod yn ansefydlog mewn mannau a gallai pobl
sy'n anghyfarwydd â'r traeth yn hawdd fynd i drafferthion e.e. mae rhai o'r
casglwyr yn cynaeafu'r cyllyll môr gryn bellter i ffwrdd oddi wrth ddiogelwch y
tir.
Mae wedi bod yn eithaf diraddiol a rhwystredig i ddinasyddion cyffredin wylio'r
ysbeilio o adnodd amgylcheddol ac yn cwestiynu pam mae sefydliadau sydd â
chylch gwaith i warchod yr amgylchedd yn ymddangos i gael eu llyffetheirio
oherwydd y diffyg gweithdrefnau/deddfau priodol. Mae hyn yn syndod o gofio bod
traeth Llanfairfechan wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig,
Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig. 2013. Mae'n rhaid bod
rheoliadau o fewn y cyrff hyn o wybodaeth i fanteisio arnynt fel ffynhonnell i
ddiogelu'r anghydbwysedd hwn mewn ecosystem o'r fath?
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/06/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni’r ffaith bod y
gwelyau cyllyll môr yn Llanfairfechan yn parhau i fod ar gau, yn ogystal â’r
gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ar ran Llywodraeth Cymru a’r ymrwymiad gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y byddai’n ystyried cwotâu
dyddiol, y ddalfa fwyaf a ganiateir a chyfnodau cau,
cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd,
felly dylid cau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/10/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberconwy
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2017