Gadael yr Undeb Ewropeaidd: monitro trafodaethau rhwng y DU a’r UE

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: monitro trafodaethau rhwng y DU a’r UE

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd feysydd craffu llywodraethol a helpodd i lywio’r amryfal ymchwiliadau a gynhaliwyd gan bwyllgorau’r Senedd, gan amlaf y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

 

Yn ystod sesiynau craffu yng nghwmni Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bu’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn:

 

  • monitro’r cynnydd o ran y trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt Cymru.
  • nodi unrhyw feysydd a oedd yn arbennig o berthnasol i Gymru neu a allai fod wedi effeithio ar feysydd cymhwysedd datganoledig.

 

Roedd y gwaith craffu cyffredinol yn canolbwyntio ar ystod eang o feysydd, a oedd yn cynnwys deddfwriaeth ynghylch ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, materion o ran masnach, cysylltiadau rhynglywodraethol a fframweithiau cyffredin.

 

Hefyd, cyhoeddodd Gwasanaeth Ymchwil Senedd adroddiadau monitro rheolaidd wrth i’r broses trafodaethau Brexit ddatblygu.

 

Rhoddodd pob adroddiad grynodeb o’r datblygiadau, gan gynnwys y dogfennau a’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Roeddent hefyd yn cynnwys dadansoddiad o’r prif faterion sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor Materion Allanol a chrynodeb o ymateb Llywodraeth Cymru i’r datblygiadau diweddaraf hynny.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2017

Dogfennau