P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau
P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Phillip Easton, ar ôl casglu
105 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Gynulliad Cymru
adolygu'r cyngor a roddir ynghylch strôc gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol
ac mewn llenyddiaeth marchnata. Ar hyn o bryd, mae hyn wedi'i seilio ar
ganllawiau FAST (Face, Arms, Speech, Time) – sy'n annog pobl i ystyried yr
wyneb, y breichiau, y lleferydd ac amser. Gall strôc effeithio ar rannau o'r
ymennydd nad ydynt yn gyfrifol am unrhyw un o'r swyddogaethau hynny, felly
dylid hefyd ystyried cydbwysedd a llygaid (Balance, Eyes) i unioni hynny.
Daeth yr anaf i fy ymennydd i, a ddangosodd fy mod wedi
cael strôc cerebelar, i'r amlwg yn ddamweiniol pan gefais MRI am reswm arall.
Roedd hyn yn egluro'r fertigo sydyn a ddaeth drosof dros flwyddyn ynghynt. Pe
bai'r gweithwyr meddygol proffesiynol amrywiol a welais bryd hynny wedi
sylweddoli mai dyna oedd yn bod, gallwn fod wedi cael triniaeth ar gyfer strôc
yn syth ac mae'n bosibl na fyddai fy ymennydd wedi'i niweidio i'r fath raddau.
Pe bawn i, fel aelod o'r cyhoedd, yn gwybod am BEFAST, byddwn wedi deall pa mor
beryglus oedd fy symptomau. Mae Prifysgol Stanford wedi bod yn ein cynghori i
ddefnyddio canllawiau BEFAST ers blynyddoedd:
http://scopeblog.stanford.edu/2014/05/02/be-fast-learn-to-recognize-the-signs-of-stroke/
Gwybodaeth ychwanegol:
Fy stori bersonol i yw fy mod yn
byw ar fy mhen fy hun, a chefais bwl sydyn o fertigo drwg ddechrau mis Rhagfyr
2015. Bûm yn fy ngwely am dri diwrnod cyfan ac nid oeddwn yn gallu symud i
fwyta, yfed nac i wneud unrhyw beth arall. Pe bawn i'n gwybod bod posibilrwydd
fy mod wedi cael strôc, buaswn wedi galw am ambiwlans ar unwaith. Ar ôl
gwella'n ddigonol, es i'n ôl i weithio ond wythnos yn ddiweddarach, cefais bwl
arall o fertigo, a hynny'n gyhoeddus - a ffoniodd rhywun am ambiwlans. Daeth y
pwl hwn i ben yn gynt y tro hwn ond bu'r parafeddyg gyda mi am awr cyn trefnu
apwyntiad i mi weld fy meddyg y noson honno. Pan es i weld fy meddyg yn yr
ysbyty, lle'r oedd yn gweithio ar y pryd, cefais bwl arall o fertigo, ac ni fu
modd i mi weithio o gwbl am fis o leiaf ar ôl hynny. Ar ôl mynd i weld y meddyg
droeon dros y tri mis nesaf, cefais fy nghyfeirio yn y diwedd i'r adran ENT er
mwyn trin fy fertigo, gan nad oedd fy symptomau'n diflannu fel roedd pawb wedi
gobeithio. Ddiwedd mis Ionawr 2107, cefais MRI o'r diwedd i geisio darganfod y
rheswm dros y boen barhaus yn fy nghlust. O ganlyniad, gwelwyd fy mod wedi cael
strôc. Cefais wybod ar 14 Chwefror 2017, dros 15 mis ar ôl i fy symptomau
cyntaf ymddangos.
Nid wyf yn gallu gweithio'n llawn amser, ac rwyf yn dal i
gael profion i geisio deall ay rhesymau dros y strôc. Mae'n bosibl mai
TIAs oedd y digwyddiadau cyntaf ac mai dim ond y strôc lawn olaf achosodd y
niwed parhaol - ar ôl i'r parafeddyg fy ngweld. Mae'n amhosibl gwybod yn
bendant a fyddwn wedi gallu osgoi'r problemau hyn pe bai fy nghyflwr wedi'i
ddarganfod ynghynt - hyd yn oed pe bawn
i wedi dechrau cymryd asprin bob dydd i deneuo'r gwaed (sef y cyngor a roddir
os oes amheuaeth bod rhywun wedi cael TIA). Ni chefais y cyngor hwnnw, ac fe
wyddom fod fy ymennydd wedi'i niweidio.
Diolch i chi am roi sylw i'r mater hwn.
Y
ddeiseb yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/11/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gymdeithas Strôc, ynghyd
â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
- ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a yw'n credu y gallai Llywodraeth Cymru
neu'r Grŵp Gweithredu Strôc gymryd unrhyw gamau ychwanegol i sicrhau
bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o symptomau ychwanegol
strôc, fel problemau gyda golwg a chydbwysedd; ac wrth wneud hynny
- cau'r ddeiseb, o ystyried y cyngor a gafwyd gan y
Gymdeithas Strôc a barn y Grŵp Gweithredu Strôc mai prin yw'r
dystiolaeth i gefnogi newid y negeseuon cyfredol ynghylch symptomau strôc,
a rhoi diolchiadau'r Pwyllgor i'r deisebydd am gyfrannu at drafodaeth
ddefnyddiol ar y mater hwn.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/07/2017.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2017