P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
The Friends of Cwmcarn Forest Drive ar ôl casglu 1450 llofnod – 353 ar bapur a
1097 ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
ddarparu'r dull angenrheidiol i ganiatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ailagor
Ffordd Goedwig Cwmcarn yn llawn i geir preifat adeg y Pasg 2018.
Gwybodaeth ychwanegol:
Yn ystod haf 2014, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y
byddai Ffordd Goedwig Cwmcarn, a elwir hefyd yn Daith Cwmcarn, ar gau am o
leiaf ddwy flynedd o fis Tachwedd 2014, a bod hyn yn angenrheidiol oherwydd
haint llarwydd Japan yn nyffryn Cwmcarn a'r llechweddau cyfagos. Mae'r broses o
gael gwared ar y llarwydd bellach bron wedi'i gwblhau ac mae Cyfoeth Naturiol
Cymru yn dechrau adfer y llwybrau beiciau a llwybrau troed, ond nid ymddengys
fod bwriad adfer Taith Cwmcarn, er bod y mwyafrif helaeth o'r llwybr heb ei niweidio.
Mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr ceir preifat y ffordd yn annheg ac yn
ddianghenraid pan fydd defnyddwyr eraill dim ond yn wynebu amhariad dros dro.
Mae llawer o'r rhai sy'n cael mynediad i'r Ffordd gyda char preifat yn gwneud
hynny am na allant symud llawer - mae rhai yn deuluoedd gyda phlant bach, mae
llawer yn hŷn, yn anabl neu o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig a
mewnfudwyr. Mae methu â darparu cyfleuster ar gyfer y bobl hyn yn wahaniaethol,
yn enwedig pan fo cynlluniau, a'r arian ar gael, i ddarparu cyfleusterau
pellach ar gyfer defnyddwyr eraill. Mae diffyg ffordd sy'n gwbl hygyrch yn
amddifadu'r bobl hynny sydd fwyaf difreintiedig yn ddiwylliannol ac yn
fateryddol o'u prif gyfleuster ar gyfer iechyd a lles. Mae ein sefydliad,
Cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn eisiau mynediad cyfartal i holl ddefnyddwyr
Taith Cwmcarn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i
ddarparu ffordd o wneud hyn yn bosibl.
Ffordd coetir
Statws
Yn ei gyfarfod ar 02/04/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan
Gyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni
bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i ailagor Ffordd y Goedwig yng ngwanwyn 2020.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 13/06/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Islwyn
·
Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/06/2017