Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel
Inquiry5
Cytunodd y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal tri ymchwiliad
i dlodi yng Nghymru.
Roedd y drydedd
ffrwd waith yn archwilio sut yr oedd dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran
datblygu economaidd wedi’i gynllunio i leihau tlodi a hybu ffyniant.
Roedd cylch
gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys ystyried sut y gall strategaeth economaidd a
chynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru:
- leihau cyfran y bobl sydd ag incwm isel yng
Nghymru;
- creu twf economaidd sy'n fwy cynhwysol ac
sydd o fudd i bobl a lleoedd fel ei gilydd ledled Cymru;
- mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd
rhwng gwahanol grwpiau o bobl
Tystiolaeth
Er mwyn llywio
gwaith y Pwyllgor, cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o sesiynau tystiolaeth lafar, ymgynghoriad
ac wyth grŵp
ffocws ledled Cymru.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Gwneud
i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel (PDF, 1.4MB) ym mis Mai
2018.
Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd John
Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom dystiolaeth gymhellol iawn am effaith
gwaith ar fywydau pobl. Roedd y dystiolaeth a glywsom gan y sector busnes bach
a'r sector adeiladu yn arbennig o ysbrydoledig o ran dangos sut y gallant helpu
i hyrwyddo gwelliannau mewn economïau lleol drwy ddarparu gwaith ystyrlon o
ansawdd da. Roedd hefyd yn galonogol clywed bod newidiadau bach yn gallu gwneud
gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.”
Cyhoeddwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Gorffennaf 2018. Cafwyd dadl ar yr
adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar
18 Gorffennaf 2018.
Mae’r ffrydiau eraill o waith y Pwyllgor sy'n ymwneud â thlodi ar gael yma
ac yma.
Cadw mewn
cysylltiad
Os hoffech wybod
rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch
i’w dudalen
hafan, dilynwch ei gyfrif
Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2017
Dogfennau
- Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at Siân Gwenllian AC (Saesneg yn unig) (Mai 2017)
PDF 894 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (14 Gorffennaf 2017) (Saesneg yn unig)
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch diwygio budd-daliadau lles (11 Hydref 2017)
- Llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch diwygio budd-daliadau lles (11 Hydref 2017)
- Llythyr at randdeiliaid ynghylch y cynllun economaidd - 12 Rhagfyr 2017
PDF 64 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Tinopolis Cymru (11 Hydref 2017)
- Gohebiaeth oddi wrth Puffin Produce Ltd
- Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio (8 Tachwedd 2017)
PDF 576 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (7 Mawrth 2018)
PDF 382 KB
- Nodiadau grwpiau ffocws
PDF 276 KB Gweld fel HTML (10) 42 KB
- Fideo Spark – Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – Eich barn chi MP4 63 MB
- Adroddiad Spark - Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel
- Cyflwyniad ysgrifenedig ar gyfer Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol
PDF 274 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (21 Mai 2018)
PDF 95 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (17 Awst 2018)
PDF 87 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (14 Medi 2018)
- Llythyr gan Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru, ynghylch y Comisiwn Gwaith Teg (9 Tachwedd 2018)
PDF 176 KB
- Llythyr at y prosiect Amodoldeb Lles (29 Mawrth 2019)
PDF 84 KB
- Datganiad y Cadeirydd ar adroddiad Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol (Mehefin 2019)
PDF 60 KB
Ymgynghoriadau