NDM 6270 Dadl: Yr Adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
NDM 6270 Dadl: Yr Adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
NDM6270
Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno bod gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau
Cenedlaethol swyddogaeth allweddol:
a) fel lleoedd
gwerthfawr ar gyfer natur ac o safbwynt creu manteision cyhoeddus a phreifat
drwy wahanol wasanaethau;
b) o safbwynt
rheoli'n gynaliadwy adnoddau naturiol a chefnogi cymunedau gwledig llewyrchus.
2. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, yn unol ag ysbryd 'bro', sydd
wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r ffordd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n
mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/09/2017
Angen Penderfyniad: 28 Maw 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS